Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi dros £34m o arian ychwanegol i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros fisoedd y gaeaf.

Mae’r buddsoddiad yn cynnwys £11m i barhau â chymorth y lluoedd arfog ar gyfer y gwasanaeth hyd at ddiwedd mis Mawrth.

Bydd nifer y personél yn cynyddu o 100 i 250 yn y flwyddyn newydd.

“Mae buddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau y gall pobol gael gofal argyfwng o ansawdd uchel pan fydd arnyn nhw ei angen fwyaf,” meddai.

“Mae clinigwyr a staff ambiwlans wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi’i wneud i ofalu am bobl.”

Buddsoddiad

Bydd £15m yn mynd tuag at ariannu cerbydau i gymryd lle cerbydau argyfwng 111, gan gynnwys 12 ambiwlans argyfwng newydd a 23 cerbyd ymateb cyflym.

Mae mwy na £8m ar gael i gefnogi gwasanaethau ambiwlans argyfwng, a gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion sydd ddim yn rhai brys.

Bydd £5m o’r arian yn mynd i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac yn cael ei ddefnyddio i gynyddu’r capasiti i gefnogi’r ymateb i bwysau’r gaeaf, a sefydlu Depo Paratoi yn Ysbyty Singleton fel bod mwy o ambiwlansys ar gael ym Mae Abertawe.

Bydd £2m ohono yn mynd tuag at wasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydyn nhw’n rhai brys, a recriwtio ymarferwyr iechyd meddwl i roi cymorth dros y ffôn.

Croesawu

Mae Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, wedi croesawu’r buddsoddiad fel ffordd o fynd i’r afael â’r galw cynyddol ac absenoldebau staff.

“Y gaeaf yw ein cyfnod prysuraf bob blwyddyn, ac ar ben hynny mae gennym y pandemig a lefelau digynsail o alw ac absenoldeb staff,” meddai.

“Rhaid inni felly weithio ddwywaith mor galed i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru.

“Mae’r ymddiriedolaeth a’i phartneriaid yn gweithio’n galed i ganfod datrysiadau hirdymor a chynaliadwy i faterion ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol cyfan, ond yn y cyfamser, rhaid inni edrych ar fesurau tymor byr i atgyfnerthu ein capasiti gymaint ag y gallwn ni.”

Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad yn atgyfnerthu gwasanaethau gofal argyfwng gan helpu pobol i gael y gofal a’r driniaeth angenrheidiol ynghynt.

St John Cymru

Bydd arian pellach hefyd i gefnogi cleifion iechyd meddwl drwy gynllun cludiant peilot gan St John Cymru.

Yn ôl Benjamin Savage, Prif Swyddog Gweithredu St John Cymru, mae’r buddsoddiad am helpu’r cymunedau y mae’r elusen yn eu gwasanaethu.

“Rydyn ni’n falch o weld y bydd rhagor o arian ar gael i wasanaethau ambiwlans ledled Cymru cyn cyfnod heriol y gaeaf,” meddai.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld buddion arian Llywodraeth Cymru i’r cymunedau yr ydym yn eu cefnogi eleni, gan lansio ein gwasanaeth cludo ar gyfer iechyd meddwl.

“Mae’r gwasanaeth hwn wedi ein galluogi i ofalu am gannoedd o bobl a oedd angen ein cymorth.”

Daw hyn wedi i lefelau staffio ambiwlansys yng Nghymru gynyddu bron i 30% yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r arian hwn yn ategu £9.8m a gafodd ei glustnodi’n flaenorol i’r Byrddau Partneriaeth Ranbarthol i helpu pobol i ddychwelyd i’w cymunedau lleol ar ôl bod yn yr ysbyty.

Bydd hyn yn helpu i wella’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty a lleddfu’r pwysau ar welyau ysbyty.