Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael copi o’r llyfr Hanes yn y Tir er mwyn i ddisgyblion ddysgu mwy am hanes Cymru.

Mae’r llyfr, sydd wedi’i ysgrifennu gan Dr Elin Jones, yn cyflwyno hanes Cymru dros gyfnod o 5,000 o flynyddoedd, gan drafod hanes Cymru o’r cyfnod cynharaf hyd at heddiw.

Bydd ysgolion yn cael copiau Cymraeg a Saesneg o’r llyfr, sy’n cynnwys darluniau a mapiau i edrych ar bwyntiau pwysig yng ngorffennol y wlad a thros wahanol gymunedau.

Mae’r llyfr hefyd yn esbonio’r ffordd y mae tirwedd Cymru wedi’i llunio gan ei hanes.

Bydd y llyfrau’n cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru i ysgolion ar ddechrau 2022 fel rhan o gyfres o gamau er mwyn cefnogi’r gwaith o addysgu hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fod y Llywodraeth am “am sicrhau bod pob disgybl yn deall hanes ein gwlad erbyn iddo adael yr ysgol – nid y digwyddiadau mawr yn unig, ond hanes bywydau a phrofiadau pobl a chymunedau o bob cwr o Gymru”.

“Mae Hanes yn y Tir yn llwyddo i ddod â hanes cyfoethog Cymru yn fyw, a bydd yn adnodd addysgu rhagorol ar gyfer ein cwricwlwm newydd.”

“Dod â hanes Cymru’n fyw”

Dywedodd Dr Elin Jones ei bod hi’n gobeithio y bydd y llyfr yn “gymorth i ddod a hanes cymhleth Cymru’n fyw”.

“Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi’r pwysigrwydd priodol i gynefin y disgyblion, eu hardal leol, ac i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth,” meddai.

“Nod y llyfr yw helpu pobl ifanc i ddeall sut mae hanes wedi ffurfio tirwedd Cymru a sut mae cliwiau i hanes eu cynefin i’w gweld yn y pethau sydd o’u cwmpas, fel adeiladau ac enwau lleoedd.

“Gobeithiaf y bydd plant ac athrawon fel ei gilydd yn mwynhau’r llyfr ac y bydd yn gymorth i ddod a hanes cymhleth Cymru’n fyw, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi”.

Wrth siarad â Golwg am ei llyfr, dywedodd Dr Elin Jones fod athrawon hanes yn gytûn mai’r hyn oedd ei angen yw llyfr tebyg i Hanes Cymru, John Davies, fyddai’n trafod ystod hanes, ond yn syml a chlir.

“Ro’n i’n ffaelu gweld dim byd oedd yn rhoi holl hanes Cymru,” meddai. “Mae yna lot o lyfrau da ar y farchnad ond, fel rheol, storïau unigol ydyn nhw. Dy’n nhw ddim yn rhoi ystod hanes i chi, a ddim yn egluro sut mae’r hanes yna yn berthnasol i chi.

“Mae hwn fel ffrind wrth eich ochr chi – ‘dyma mae John yn ei ddweud’. Os edrychwch chi, fe welwch chi olion hyn yn eich ardal chi. Fe welwch chi’r Chwyldro Diwydiannol yn eich ardal chi; fe welwch chi sut oedd caethwasiaeth wedi effeithio ar Gymru yn eich ardal chi. Beth oedden ni moyn oedd y syniad bod hanes o’n cwmpas ni bob dydd.”

“Deall gorffennol, presennol a dyfodol” y genedl

Mae gwella’r ffordd mae hanes Cymru’n cael ei addysgu yn un o’r ymrwymiadau sy’n cael eu nodi yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu adnoddau addysgu newydd i egluro natur “amrywiol a chymhleth” y wlad.

Dywed Sian Gwenllian, aelod dynodedig arweiniol Plaid Cymru dros y Cytundeb Cydweithio, fod hyn yn “ddatblygiad positif”.

“Wrth i stori genedlaethol Cymru ddod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm, mae darparu gwaith arloesol y Dr Elin Jones ar gyfer pob ysgol yng Nghymru yn ddatblygiad positif,” meddai.

“Mae addysgu hanes Cymru yn rhan annatod o sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn deall gorffennol, presennol a dyfodol eu cenedl.

“Bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod cwricwlwm Cymru yn gynhwysfawr a bod athrawon yn cael eu cefnogi’n ddigonol wrth ei gyflwyno.”

Cywilydd y cestyll

Non Tudur

Mae hi’n bryd i ni roi’r gorau i ddathlu ein methiannau, yn ôl awdur llyfr ar hanes Cymru