Mae’r mudiad Conradh na Gaeilge wedi croesawu Deddf Ieithoedd Swyddogol (Gwelliant) 2021, sydd wedi dod i rym ar ôl cael sêl bendith Michael D Higgins, Arlywydd Iwerddon.
Mae’n nodi diwedd ar ddegawd o ymgyrchu cymunedol, ac yn cael ei ystyried yn dipyn o gamp, yn enwedig yr ymrwymiad i sicrhau erbyn 2030 fod 20% o’r rheiny sy’n cael eu recriwtio yn y sector cyhoeddus yn medru’r Wyddeleg.
Bydd disgwyl i 20% o hysbysebion cyrff cyhoeddus fod trwy gyfrwng yr iaith, a 5% o gyllideb y cyrff yn cael ei wario ar y fath hysbysebion yn y cyfryngau.
Bydd rhaid i bob gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan gyrff cyhoeddus yn y Gaeltacht fod trwy gyfrwng yr iaith, ond does dim blwyddyn wedi’i nodi er mwyn cyflawni hyn.
Yn ogystal, bydd y cyhoedd yn cael yr hawl i ddefnyddio’u henwau a’u cyfeiriadau Gwyddelig, a fydd dim rhaid iddyn nhw ddefnyddio teitl os nad ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.
Bydd yn rhaid i gyrff yn y sector preifat sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd hefyd gadw at rai o reolau’r Ddeddf.
A bydd cyrff cyhoeddus yn gorfod trin yr iaith yn gyfartal yn y farchnad, gyda logos yn cael eu newid o fod yn uniaith Saesneg i fod yn ddwyieithog neu’r Wyddeleg yn unig pan fo angen eu newid neu eu hadnewyddu.
Bydd yn rhaid i enwau swyddogol cyrff cyhoeddus newydd fod yn uniaith Wyddeleg, gan sicrhau bod yr un yn wir am logos hefyd, tra bydd disgwyl i rai ffurflenni swyddogol fod yn ddwyieithog neu’n uniaith Wyddeleg hefyd.
Bydd yn rhaid i gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghori, fydd yn gyfrifol am lunio Cynllun Cenedlaethol ar gyfer recriwtio a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg, fod yn medru’r iaith, a bydd yn rhaid i’r Pwyllgor gynnwys cynrychiolydd o’r Gaeltacht ac un o’r tu allan i’r Gaeltacht.
Bydd safonau iaith yn cael eu cyflwyno yn lle cynlluniau iaith, a bydd Gweinidog y Gaeltacht yn gyfrifol am gyflwyno Cynllun Cenedlaethol y cyrff cyhoeddus.
Bydd gan Gomisiynydd bwerau monitro ychwanegol o ran y ddeddfwriaeth bresennol, tra bydd strwythur rheolwyr uwch cwmnïau’n gyfrifol am sicrhau eu bod nhw’n cadw at y Ddeddf.
Yn olaf, bydd Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaethau’r wladwriaeth trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg.
‘Deddfwriaeth â seiliau cadarn’
“Hoffai Conradh na Gaeilge dalu teyrnged arbennig i holl aelodau ein sefydliad ac i bawb arall yn y gymuned iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht a safodd yn gadarn yn erbyn y cynigion gwan iawn ar gyfer deddfwriaeth gan Lywodraethau rhwng 2011 a 2016, a sicrhaodd annibyniaeth Swyddfa An Coimisinéir Teanga, ac a sicrhaodd, rhwng 2017 a 2021, ddeddfwriaeth â seiliau cadarn a chyfle i sicrhau gwasanaethau iaith Wyddeleg boddhaol ar gyfer y gymuned iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht ar gyfer y dyfodol,” yn ôl Niall Comer, Llywydd Conradh na Gaeilge.
“Hoffem gydnabod hefyd a thalu teyrnged i Arlywydd Iwerddon, y Gweinidog presennol, Gweinidogion y Gaeltacht a Gweinidogion eraill y llywodraeth sydd wedi cefnogi cryfhau’r Ddeddf dros y blynyddoedd, gwleidyddion yr wrthblaid (yn enwedig aelodau’r Pwyllgor Oireachtas ar gyfer yr Iaith Wyddeleg, y Gaeltacht a’r Gymuned Iaith Wyddeleg), y Comisiynwyr Iaith, staff yn Adran y Gaeltacht ac eraill oedd wedi chwarae rhan yn natblygiad y Ddeddf.”
‘Mae cynnydd wedi’i wneud’
“Dydy hi ddim yn orddweud i ddweud, dros y deng mlynedd diwethaf, ein bod ni wedi dod yn bell wrth ddiweddaru’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol,” meddai Julian de Spáinn, Ysgrifennydd Cyffredinol Conradh na Gaeilge.
“Dechreuon ni drwy amddiffyn annibyniaeth Swyddfa An Coimisinéir Teanga a gwrthwynebu gwanhau Deddf Ieithoedd Swyddogol 2003.
“Gwnaeth y Conradh hyn mewn partneriaeth â Guth na Gaeltachta yn 2011 a thros y deng mlynedd diwethaf, gyda nifer o grwpiau ac unigolion eraill yn y gymuned a’r gwleidyddion niferus oedd wedi cefnogi’r newidiadau roedden ni’n galw amdanyn nhw.
“Mae cynnydd wedi’i wneud.
“Nid yn unig y gwnaethon ni lwyddo i gadw Swyddfa An Coimisinéir Teanga yn annibynnol…
“Does gan y Conradh ddim amheuaeth fod yna her enfawr o’n blaenau ac y bydd gofyn am bwysau parhaus i sicrhau bod Cynllun Cenedlaethol boddhaol ac uchelgeisiol yn cael ei lunio a’i gyflwyno’n llawn, yn ogystal â chyflwyno holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf.
“Bydd Conradh na Gaeilge yn parhau i wthio i gyflawni hyn ac yn annog cyfranogiad parhaus gan y gymuned.”