Mae’r Prif Weinidog wedi ymddiheuro am beidio cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i Aelodau o’r Senedd yn amlinellu’r newidiadau i gyfyngiadau Covid.
Daw hyn wrth i’r Prif Weinidog amlinellu mesurau Covid-19 newydd a gaiff eu cyflwyno yng Nghymru o 6am ar Ŵyl San Steffan ymlaen.
Ddoe (Rhagfyr 21) fe gyhoeddodd y Llywydd, Elin Jones, y byddai’r Aelodau o’r Senedd yn dychwelyd yn rhithwir heddiw (Rhagfyr 22) “i ystyried mater o bwysigrwydd cyhoeddus”.
Daeth hynny wedi i Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn iddi alw’r Senedd yn ôl er mwyn craffu a phleidleisio ar gyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru.
Roedd y Senedd ar ei hegwyl Nadolig – gyda’r tymor nesa’n dechrau ar Ionawr 10.
Nododd Andrew RT Davies yn ei lythyr nad oedd aelodau wedi derbyn Datganiad Ysgrifenedig gan Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn amlinellu’r newidiadau.
‘Ymddiheuro’
Ac yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher 22 Rhagfyr), fe ofynnodd Andrew RT Davies am sicrwydd y bydd y Prif Weinidog yn rhoi diweddariadau rheolaidd i Aelodau.
“Ni all fod yn iawn, Brif Weinidog, fod newyddiadurwyr yn trydar ar nos Lun eu bod yn meddu ar ddatganiad i’r wasg dan embargo a fydd yn dod allan am hanner nos gyda chyhoeddiadau sylweddol […] pan nad yw Aelodau’r Senedd wedi cael unrhyw wybodaeth o gwbl gan y Llywodraeth.”
“A allwch roi sicrwydd imi y byddwch yn annerch Senedd Cymru a’i Haelodau gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, ac a fyddech yn darparu sesiwn friffio i Aelodau’r Senedd gan y prif swyddog meddygol, fel sydd wedi digwydd yn San Steffan ar gyfer pob Aelod, er mwyn i Aelodau fod â’r wybodaeth ddiweddaraf bosibl?
Ymddiheurodd y Prif Weinidog, ond gan ychwanegu nad yw’n gallu cymryd cyfrifoldeb dros weithredodd y wasg.
“Ni allaf fod yn gyfrifol am y ffordd y mae newyddiadurwyr yn torri embargo neu’n rhoi gwybod am bethau,” meddai Mark Drakeford.
“[Ond] dylid bod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y diwrnod hwnnw.
“Ymddiheuraf am y ffaith na ddigwyddodd hynny. [Digwyddodd] dim ond oherwydd pa mor gyflym y mae’n rhaid gwneud popeth.”
Mae Aelodau meinciau cefn Llafur Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i alwad arweinydd y Ceidwadwyr am adalw’r Senedd.
Good and constructive scrutiny from @AndrewRTDavies at the recalled @SeneddWales today. Demonstrates the value and importance of recalling our parliament to discuss and debate these things.
— Alun Davies AS / MS ??????? (@AlunDaviesMS) December 22, 2021
Dywedodd Alun Davies, ar ei gifrif Twitter: “Craffu da ac adeiladol gan Andrew RT Davies yn y Senedd sydd wedi ei galw yn ôl. [Mae hyn yn] dangos gwerth a phwysigrwydd adalw ein senedd i drafod y pethau hyn.”
Diffyg tystiolaeth?
Yn ystod y ddadl fe gwestiynodd y Ceidwadwyr Cymreig a oes digon o dystiolaeth am yr amrywiolyn Omicron i gyfiawnhau cyfyngiadau newydd yng Nghymru.
Yn ôl y Prif Weinidog mae’r ddadl bod Omicron yn amrywiolyn “ysgafnach”, ac felly nad oes angen cyfyngiadau arno i’w reoli, yn “methu’r pwynt”.
Dywedodd Mark Drakeford, oherwydd bod yr amrywiolyn yn trosglwyddo’n llawer cyflymach na Delta, hyd yn oed pe bai hanner mor ddifrifol, mai dim ond 48 awr fyddai gan y Gwasanaeth Iechyd i ymateb i hynny, gan mai dyna faint o amser y mae’n ei gymryd i heintiau Omicron ddyblu.
Dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn “bwysig ein bod yn deall bod tystiolaeth sy’n esblygu yn dangos nad yw Omicron yn cael yr effaith a gafodd yr amrywiolyn Delta yn yr ail a’r drydedd don o’r feirws erchyll yma.”
Ymatebodd Mark Drakeford i hynny drwy ddweud nad yw’r dystiolaeth mor unionsyth ag y mae mai “papurau newydd yn ei adrodd”.
“Rwy’n credu bod y ddadl am ddifrifoldeb omicron yn methu’r pwynt, i raddau. Mae nifer y bobl fydd yn mynd yn sâl gyda’r amrywiolyn Omicron yn golygu, hyd yn oed pe bai’n llai difrifol, na fydd hynny’n atal y cynnydd enfawr yn y galw y gallai fod gyda phobl yn mynd yn sâl,” meddai.
Cytuno
Cytuno gyda chyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru wnaeth Plaid Cymru.
Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: “Mae fy mhlaid yn credu mai cyflwyno amddiffyniadau rhagofalus mewn ffordd gymesur yw’r peth iawn i’w wneud o ystyried yr ansicrwydd sylweddol yr ydym yn dal i’w wynebu o ran effaith bosibl yr amrywiolyn Omicron a’r potensial i’r effaith o dan rai senarios fod yn sylweddol.”
'Restrictions' are protections.#covid #wales
— Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth) December 22, 2021
Dywedodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar ei gyfrif Twitter: “Amddiffyniadau yw cyfyngiadau”.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau ar 20 Rhagfyr a allai weld gweithwyr yn cael dirwy am weithio oddi cartref “heb esgus rhesymol”.
Ar lawr y Senedd, dywedodd Luke Fletcher fod “meddwl bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng cyflogwr a gweithiwr […] yn naïf, a gall unrhyw un sy’n gweithio mewn swydd isafswm cyflog ddweud wrthych ble mae’r pŵer gwirioneddol.”
‘Sgwrs ddifrifol am fyw â’r feirws’
Yn ogystal, awgrymodd arweinydd y Ceidwadwyr fod angen “sgwrs genedlaethol ddifrifol” am sut i ddysgu byw gyda’r coronafeirws.
“Bydd cyflwyno cyfyngiadau ar fusnesau – y bydd rhai ohonynt ar eu colled yn ystod eu hamser prysuraf o’r flwyddyn – yn niweidiol iawn i gwmnïau, yn enwedig yn y sectorau chwaraeon a lletygarwch, ac mae’n hanfodol eu bod yn cael cymorth ariannol sylweddol i oroesi a diogelu swyddi,” meddai Andrew RT Davies.
Rhoddodd groeso i’r newidiadau diweddar i reolau ynysu ar gyfer cysylltiadau agos gan ddweud y bydd “yn cyfyngu ar ddifrod i les personol ac economaidd” ond, meddai, “rhaid i weinidogion hefyd adolygu’r rheol 10 diwrnod ar frys yng ngoleuni’r cyngor diweddaraf gan Asiantaeth Iechyd a Diogelwch y Deyrnas Unedig.”
“[Ac] wrth symud ymlaen, mae angen i ni gael sgwrs genedlaethol ddifrifol ar sut rydym yn dysgu byw gyda’r feirws hwn a’r galwadau cynyddol a roddwn ni, fel cenedl, ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”