Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn “stad o barlys yn sgil rhaniadau mewnol” wrth ystyried cyflwyno cyfyngiadau Covid-19 pellach, meddai Mark Drakeford heddiw.
Mewn cynhadledd i’r wasg, wrth fanylu ar y mesurau newydd fydd yn dod i rym yng Nghymru Ddydd San Steffan, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraeth San Steffan yn gweld yr un data ond “nad ydyn nhw’n barod i weithredu”, a bod ffraeo mewnol o fewn eu cabinet.
Ni fydd mwy na 30 o bobol yn cael cyfarfod tu mewn, ac ni fydd mwy na 50 yn cael cyfarfod tu allan dan y rheolau newydd.
Fel arall, nid oes cyfyngiadau ar gwrdd â phobol mewn cartrefi a gerddi preifat, na mewn llety gwyliau, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cryf i “helpu pobl i ddiogelu ei gilydd”.
“Gallu gwneud penderfyniadau”
Mae yna ddau beth yn y data sydd wedi arwain at weithredu nawr, meddai Mark Drakeford, yn bennaf cyflymdra lledaeniad Omicron.
Hyd yn oed petai’r amrywiolyn yn achosi salwch llai difrifol nag amrywiolion eraill, meddai mr Drakeford, mae’r cyflymdra hwnnw dal yn golygu y byddai cymaint o bobol yn ei ddal fel y byddai’r effaith ar y gweithlu, ac yna’r Gwasanaeth Iechyd drwy dderbyniadau i ysbytai, yn “sylweddol”.
Mae rhai wedi awgrymu bod Omicron yn achosi salwch llai difrifol ond dydi’r dystiolaeth am hynny ddim yn eglur, meddai’r Prif Weinidog.
Does dim i awgrymu bod y salwch yn llai difrifol i bobol sy’n cael Covid am y tro cyntaf, meddai.
Mae’r achosion o’r amrywiolyn Omicron wedi cynyddu’n “sydyn” yn yr wythnos ddiwethaf, a gellir disgwyl i’r tuedd hwnnw barhau a chyflymu, meddai Mark Drakeford.
“Dw i’n meddwl y bydd pobol yng Nghymru yn teimlo y bydd popeth yn cael ei wneud ar eu rhan nhw i’w cadw nhw’n sâff ar adeg heriol iawn,” meddai.
“Dw i’n meddwl y bydden nhw’n cydnabod bod ganddyn nhw Lywodraeth sy’n gallu gwneud y penderfyniadau hyn, hyd yn oed pan mae’r penderfyniadau’n anodd, ac weithiau pan nad ydyn nhw’n boblogaidd.
“Yma yng Nghymru rydyn ni mewn sefyllfa… pan rydyn ni’n gweld y dystiolaeth neu’n clywed am y camau y gallwn ni eu cymryd i ddiogelu pobol, byddwn ni’n eu cymryd nhw.
“Dw i’n meddwl bod yna wrthgyferbyniad gwirioneddol gyda pharlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n methu â gweithredu, yn syml.
“Clywais y Prif Weinidog yn dweud mewn cyfweliad yn gynharach yr wythnos hon nad yw’r sefyllfa erioed wedi bod yn un â chymaint o frys, a phan ofynnwyd iddo beth oedd e am wneud am hynny, dywedodd ei fod yn gwneud dim.
“Byddai hynny ddim yn dderbyniol i mi wrth arwain Llywodraeth Cymru.”
“Ffraeo mewnol”
Wrth ateb pam fod Llywodraeth Cymru’n cymryd camau mwy sylweddol a sydyn i fynd i’r afael â’r amrywiolyn Omicron o gymharu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd fod y ddwy lywodraeth yn gweld yr un data a chael yr un cyngor.
“Dw i’n meddwl bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn stad o barlys ymysg hyn i gyd,” meddai, gan gyfeirio at y nifer uchel o achosion yn Llundain.
“Rydyn ni’n gweld adroddiadau am ffraeo mewnol o fewn y Cabinet. Mae yna leisiau call, fel y byswn i’n ei gweld hi, yn annog y Prif Weinidog i weithredu i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd ac amddiffyn bywydau fel y mae e wedi’i wneud mewn tonnau eraill.
“Mae yna eraill sy’n cymryd golwg wahanol ar y balans o risg yma, sy’n barod i adael i’r risgiau yna barhau.
“Maen nhw wedi’u parlysu gan eu rhaniadau mewnol, a dydyn nhw methu gweithredu.
“Dw i ddim yn credu mai peidio gweld y data sy’n gyfrifol am hynny, maen nhw’n gweld y data ond dydyn nhw ddim yn barod i weithredu arno.”
Gemau chwaraeon
Gan amddiffyn y penderfyniad i chwarae gemau tu ôl i ddrysau caeedig ar ôl y Nadolig, dywedodd Mark Drakeford mai ymddygiad pobol wrth deithio i gemau, ac mewn tafarndai o amgylch stadia yw’r pryder.
Dywedodd fod clybiau wedi gweithio’n galed i sicrhau diogelwch yn ystod tonnau diwethaf, “ond rydyn ni’n pryderu ynghylch sut mae pobol yn ymddwyn, nid pan maen nhw yn y cae, ond y pinchpoints ychwanegol – sut mae pobol yn teithio iddyn nhw, mynd a dod, sut mae pobol yn ymddwyn mewn lletygarwch o’u hamgylch nhw”.
“Mae yna beryglon yno nad ydyn ni eu hangen.
“O ystyried y bydd miloedd o achosion o Omicron erbyn ar ôl y Nadolig, mae’r risgiau hynny’n rhai gwirioneddol.
“Mae’r risgiau hynny’n wahanol iawn os ydych chi mewn lleoliad efo lot, lot llai o bobol a’r holl fesurau diogelu ychwanegol rydyn ni wedi’u cyhoeddi heddiw.
“Felly, byddwch chi’n gallu bod mewn tafarndai’n gwylio gêm ar y teledu gyda’r mesurau newydd mewn lle, ond fyddwch chi ddim yno gyda 21,000 person gwahanol yn rhannu’r un lle efo chi a’n trio mynd mewn ac allan o’r cae’r un pryd.
“Felly, dyw hi ddim yn bosib cymharu’r sefyllfaoedd yn y ffordd honno, ac felly dyna pam ein bod ni wedi’u trin nhw’n wahanol.”
Bydd eithriad i’r rheol o ran gwyliau gemau, gyda chaniatâd i 50 o bobol wylio gemau clybiau lleol tu allan yn yr awyr agored.
O ran ymgynnull mewn cartrefi preifat, fe fydd gan yr heddlu hawl i ymyrryd os ydyn nhw’n clywed adroddiadau am bartïon gyda dros 30 o bobol.
Yn ystod y gynhadledd, dywedodd Mark Drakeford y bydd y niferoedd sy’n cael mynd i briodasau, partneriaethau sifil, angladdau a the angladd yn ddibynnol ar allu’r lleoliad i reoli ymbellhau cymdeithasol.
Cyfnod “cymharol fyr”
Mae’r modelu ar y funud yn awgrymu y bydd y don hon o Omicron yn cyrraedd ei brig ym mis Ionawr, ond bod disgwyl i’r achosion ostwng yn sydyn o gymharu â thonau blaenorol.
Bydd £120m ar gael i glybiau nos a busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth y mae’r newid hwn i lefel rhybudd 2 yn effeithio arnyn nhw – dwbl y pecyn £60m newydd a gyhoeddwyd wythnos diwethaf.
“Oherwydd y bydd siopau, tafarndai, lletygarwch yn ailagor, rydyn ni’n gobeithio y gellir rheoli’r effaith ar golli swyddi, ac y bydd cyflogwyr yn cael help uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru,” meddai Mark Drakeford.
“Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hwn yn gyfnod cymharol fyr, os yw’r modelu’n troi allan i fod yn ddibynadwy, cynnydd sydyn yna dirywiad mwy sydyn nag rydyn ni wedi’i weld yn y gorffennol, yna dydyn ni ddim yn sôn am hyn yn mynd ymlaen am fis ar ôl mis.
“Does yr un ohonom ni eisiau dychwelyd i lefelau rhybudd a rheoliadau.
“Ond rydyn ni nawr yn dechrau ar gyfnod mwyaf difrifol y pandemig hyd yn hyn. Bydd Cymru yn ailagor ar ôl y Nadolig.
“Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein hunain a chadw Cymru’n ddiogel.
“Gallwn ni weithio gyda’n gilydd a byddwn ni’n dod trwy hyn. Bydd yna ddyddiau gwell o’n blaenau.”