Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu brechu plant 5 i 11 oed sydd mewn grwpiau “risg”, gan ddilyn cyngor diweddaraf y Cydbwyllgor Imiwnedd a Brechu (JCVI).

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn nodi plant rhwng 5 ac 11 oed cymwys sydd mewn categori “risg”, neu sy’n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig, ac yn dechrau cynnwys apwyntiadau yn y flwyddyn newydd, meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.

Hyd yma, tan y bydd rhagor o wybodaeth a thystiolaeth, dydi’r JCVI heb gynghori y dylai pob plentyn 5 i 11 oed gael eu brechu.

Dosys atgyfnerthu

Mae’r JCVI hefyd yn argymell cynnig dos atgyfnerthu Covid-19 i bob person ifanc 16 ac 17 oed.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n argymell cynnig dos atgyfnerthu i blant a phobol ifanc 12 i 15 oed sydd mewn grŵp risg clinigol neu sy’n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig, a phlant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n ddifrifol imiwnoataliedig ac sydd wedi cael trydydd dos sylfaenol.

Ni ddylid cynnig dos atgyfnerthu i unigolion nes y bydd o leiaf tri mis wedi pasio ers iddyn nhw orffen eu cwrs sylfaenol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor hwnnw hefyd, a bydd plant o dan 18 oed sy’n gymwys am ddos atgyfnerthu yn cael apwyntiad pan fydd digon o amser wedi mynd heibio.

“Yn ôl yr arfer, bydd gwybodaeth briodol am fanteision a risgiau posibl brechu ar gael i blant a phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r brechiad,” meddai Eluned Morgan.

Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn. Dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol yw ein bwriad, fel yr ydym wedi ei wneud ers dechrau’r pandemig.”