Mae Ysgol Gynradd Abersoch, sydd wedi bod ar agor ers bron i ganrif, wedi cau ei drysau am y tro olaf heddiw (dydd Mercher, 22 Rhagfyr).
Ym mis Medi, fe bleidleisiodd cabinet Cyngor Gwynedd yn unfrydol i gau’r ysgol, gan nodi bod niferoedd disgyblion yn gostwng a bod y costau o’i chynnal yn uchel.
Yn y flwyddyn newydd, bydd y deg disgybl sydd yn cael eu haddysg yno yn symud i ysgol gyfagos, Ysgol Sarn Bach.
Roedd y Cyngor wedi nodi bod yr ysgol yn gweithredu ar chwarter ei chapasiti ar hyn o bryd mewn adroddiad o blaid cau’r ysgol yn gynharach eleni.
Ar y llaw arall, roedd sawl un yn lleol a chenedlaethol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau oherwydd yr effaith y byddai’n ei gael ar y gymuned a’r Gymraeg yn Abersoch.
Dywed Cymdeithas yr Iaith bod y cynlluniau’n “unllygeidiog,” gan ychwanegu bod Abersoch eisoes yn dioddef o broblem tai haf.
Hefyd, roedd dwy ddeiseb sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau wedi derbyn bron i 3,000 o lofnodion rhyngddyn nhw.
“Bradychu”
Mynegodd Anna Jones, cyn-Bennaeth a chyn-lywodraethwr Ysgol Abersoch, sydd hefyd yn byw yn y pentref, ei thristwch wrth weld yr ysgol yn cau.
Dywedodd fod yr ysgol “yn ganolog i’r pentref [ac] rwy’n flin iawn wrth Gyngor Gwynedd am amddifadu’r plant o’u genedigaeth-fraint, am roi cyllell arall yn ein Cymreictod.”
Mae Anna Jones o’r farn mai “y ddadl, wrth gwrs, yw cyllid”. Ond mae hi’n cyhuddo’r Cyngor Sir o fod yn “yn hafing iawn o elwa ar yr arian a geir o’r tai haf.”
“Rydym yn ymladd yn galed ymhobman i gael mwy o statws i’r iaith a chael pawb i’w siarad,” meddai.
“Ond mae Cyngor Gwynedd, sydd yn gryf o Blaid Cymru, yn ein bradychu trwy gau’r ysgol.
“Nid wyf yn fodlon o bell ffordd â’r modd y gweithredwyd y broses. Gan ein bod ynghanol y pla Covid-19 ni chafwyd cyfle i gael cyfarfod i’r gymuned. Ni ddangoswyd unrhyw gydymdeimlad tuag at y Pennaeth a gollodd ei mab a’i thad yn y cyfnod hwn.
“Bwrw ymlaen wnaeth Cyngor Gwynedd gan ychwanegu mwy at ei gofid. Yn fy marn i, bu’r broses yn annheg.”
Mae Joanne Pearson yn fam i ddau o blant gafodd eu haddysg yn Ysgol Abersoch ac sydd bellach wedi mynd i’r ysgol uwchradd.
“Dw i’n byw yn y pentref ac mae’r ysgol wedi bod yn galon y gymuned am flynyddoedd maith,” meddai.
“Estyniad ar Barc Gwyliau Y Warren fydd pentref Abersoch yn y pendraw o ganlyniad i hyn.”
Mae croeso i unrhyw un gysylltu â golwg360 i rannu eu hatgofion o Ysgol Gynradd Abersoch dros y blynyddoedd.
Stryd ddrytaf Cymru
Wrth ymateb i’r penderfyniad ar Twitter, cyfeiriodd @ElinorEliW at y “cysylltiad amlwg” sy’n bod rhwng y cyhoeddiad heddiw bod stryd ddrytaf Cymru wedi ei lleoli yn Abersoch.
Dywedodd @AndrewT41568381 mai dyma sy’n “digwydd pan mae pobol leol wedi eu prisio allan o brynu cartref yn eu pentref eu hunain,” ac y byddai’n “digwydd eto yn anffodus.”
Roedd un arall, @Islurpmytea, yn dweud “bod Cyngor Gwynedd ers blynyddoedd wedi camu i’r ochr a gadael i Abersoch gael ei golli i ail gartrefi,” gan ychwanegu eu bod nhw “wedi gadael pobol leol i lawr go iawn.”
For years Cyngor Gwynedd have just stepped aside and allowed Abersoch to be lost to second homes. They have let the locals down big time.
— Blod ??????? (@lslurpmytea) December 22, 2021
Gallwch ddarllen mwy am y stori honno ar Golwg360, drwy’r linc isod.