Mae stryd o dai yn Abersoch ym Mhen Llŷn wedi ei henwi fel y stryd ddrytaf yng Nghymru, yn ôl ymchwil diweddar.

Yn ymestyn o ganol y pentref at arfordir Llŷn, mae’r pris cyfartalog am dŷ ar Lôn Traeth yn costio cymaint â £2,152,000, sef y pris uchaf yng Nghymru.

Y stryd ddrytaf yng Nghaerdydd yw Rhodfa Llandennis yn ardal Cyncoed, lle mae’n rhaid talu ar gyfartaledd £1,361,000 i gael prynu tŷ yno.

Er bod y ffigyrau hyn yn sylweddol, dros y ffin yn Lloegr mae’r stryd ddrytaf yn y Deyrnas Unedig, gyda’r ymchwil yn dangos bod prisiau cyfartalog un stryd yn Llundain yn codi i £28.9 miliwn.

Gyda phrisiau tai yn torri recordiau droeon yn ddiweddar, mae grwpiau ymgyrchu fel Hawl i Fyw Adra a Chymdeithas yr Iaith wedi galw am reoleiddio gwell ar y farchnad dai yng Nghymru, i sicrhau bod pobol ifanc mewn cymunedau Cymraeg gan fwyaf yn gallu fforddio prynu tŷ yno.

‘Dim syndod o gwbl’

Mae Abersoch yn un o’r lleoliadau gwyliau mwyaf poblogaidd yng Ngwynedd a Chymru benbaladr, gyda bron i 60% o holl gartrefi’r pentref yn dai haf erbyn hyn.

Ers blynyddoedd, mae ymgyrchwyr wedi galw ar yr awdurdodau i ystyried yr argyfwng tai haf sy’n wynebu ardaloedd fel hyn.

Dywed Rhys Tudur, sy’n rhan o grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra a’n gadeirydd â Chyngor Tref Nefyn ym Mhen Llŷn, nad oedd yn “syndod o gwbl” gweld mai stryd yn Abersoch oedd y drytaf yng Nghymru.

“Mae’r stryd honno reit ar yr arfordir yn edrych dros y môr, ac mae plot o dir adeiladu hyd yn oed yn gallu bod dros filiwn yna,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny’n cael effaith bellach ar gymunedau arfordirol, gan eu bod nhw’n mynd yn gwbl anghynaladwy.

“Beth sy’n digwydd yn Abersoch ac ardaloedd eraill ydi bod rhwydd hynt iddyn nhw foneddigeiddio ar hyd yr arfordir, i ddymchwel tai ac ail godi, ac mae hynny gan fwyaf oherwydd polisïau gwantan sydd gan Gyngor Gwynedd i atal hynny rhag digwydd.”

“Yn arbennig, mae llawer o’r tai sydd ar y stryd o fewn yr ardal harddwch naturiol dynodedig, ac sydd i fod wedi ei warchod o ran cynllunio, gyda chyfyngu ar y math o ddatblygiadau sy’n gallu digwydd.

“Does dim math o afael ar y polisïau hyn sydd ganddyn nhw os ydyn nhw’n methu â stopio datblygiadau yn fan hyn.

“Mae ’na ddiffyg mawr yn yr awdurdodaeth leol eu bod nhw’n methu â defnyddio eu polisïau i herio pobol sydd ag arian ac sydd eisiau gwneud beth fynnon nhw efo’u tai.”

Roedd Rhys hefyd yn dweud mai dyma “un o’r rhesymau pam bod [Ysgol Gynradd Abersoch] wedi cau.”

“Does neb yn gallu byw yn y gymuned a does dim to ifanc yna wedyn, a dyna ydi’r achos,” ychwanegodd.

Bydd yr ysgol honno ar agor am y tro olaf heddiw (dydd Mercher, 22 Rhagfyr), gyda disgyblion yn symud i Ysgol Sarn Bach yn y flwyddyn newydd.

Ysgol Abersoch

Cyngor Gwynedd yn pleidleisio i fwrw ymlaen â’r penderfyniad i gau Ysgol Abersoch

Cafodd pryderon eu codi gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi am y penderfyniad i gau’r ysgol, a chafodd y Cabinet eu galw i drafod y mater eto