Roedd economi’r Deyrnas Unedig wedi arafu mwy na’r disgwyl rhwng mis Gorffennaf a Medi, a hynny cyn effaith yr amrywiolyn newydd Omicron, yn ôl ffigurau swyddogol.

Roedd yr economi wedi ehangu 1.1% yn y trydydd chwarter, o’i gymharu â’r amcangyfrif cychwynnol o 1.3%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae hyn yn dangos crebachiad sylweddol yn yr ail chwarter, pan oedd allbwn y DU wedi cynyddu 5.4% yn dilyn llacio rheolau Covid.

Mae arbenigwyr yn disgwyl i’r economi grebachu ym mis Rhagfyr wrth i gwsmeriaid gadw draw o’r siopau yn sgil yr amrywiolyn newydd Omicron sy’n lledaenu ar draws y DU. Mae pryderon y gallai mesurau pellach effeithio ar chwarter cyntaf 2022.

Mae data’r ONS wedi dangos effaith y problemau gyda’r gadwyn gyflenwi a phrinder nwyddau dros yr haf, gyda gwerthiant ceir yn cael ei effeithio gan brinder sglodion lled-ddargludyddion a phrosiectau adeiladu wedi’u gohirio oherwydd anawsterau wrth gael deunyddiau.

Mae arolygon yn rhagweld arafu pellach yn y pedwerydd chwarter wrth i bobl aros gartref yn y cyfnod hyd at y Nadolig, sydd wedi cael effaith ar lletygarwch, hamdden a’r sector manwerthu.