Mae trefnwyr angladdau gofalgar ym Maesteg yn helpu teuluoedd sy’n galaru y Nadolig hwn, wrth godi ac addurno coeden yn eu capel gorffwys er cof am yr holl bobol y buon nhw’n trefnu eu hangladdau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae pob addurn unigol ar y goeden yng nghapel gorffwys Zoar, lle mae cwmni Owen E Jones & Co wedi’i leoli, yn cynnwys enw dyn neu ddynes fu farw, ynghyd â’r dyddiad y buon nhw farw.

Yn ôl Gareth Watts, sy’n rhedeg y cwmni teuluol, maen nhw wedi trefnu dros 300 o angladdau ers dechrau’r flwyddyn.

Capel Zoar, Maesteg
Capel Zoar, Maesteg

Fe fu’r blynyddoedd diwethaf yn fwy anodd fyth i’r rhai sy’n galaru, gyda chyfyngiadau ar nifer y bobol sydd wedi cael mynd i angladdau oherwydd Covid-19 – cyn lleied â deg ar un adeg pan oedd y cyfyngiadau ar eu llymaf.

Doedd dim modd canu mewn angladdau am gyfnod hir, ac roedd cyfyngiadau eraill yn eu lle gan gynnwys pobol yn methu cofleidio’i gilydd ac yn gorfod cadw pellter mewn angladdau.

“Mae e wedi effeithio’n fawr arnon ni,” meddai Gareth Watts wrth golwg360.

“Doedden ni ddim yn cael defnyddio ein ceir limousine am sbel.

“Roedd rhaid i ni ddefnyddio lot fawr o PPE hefyd, ond dw i’n credu ein bod ni wedi ymdopi’n dda.”

Wrth drafod y goeden goffa, mae’n dweud ei bod yn ffordd iddyn nhw fel cwmni dalu teyrnged i’r rhai fu farw, ac i’w teuluoedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl.

“Dw i jyst yn meddwl ei bod hi’n beth braf eu bod nhw’n gwybod fod eu hanwyliaid yn cael eu cofio yn y capel gorffwys lle’r oedden nhw,” meddai.

“Mae’n unigryw i ni, felly dim ond os ydyn ni wedi trefnu’r angladd y bydd eu henwau nhw ar y goeden.

“Dw i jyst yn meddwl bod pobol yn hoffi gwybod fod atgof yno, p’un a ydyn nhw’n ymweld ai peidio, a bod rhywbeth yno iddyn nhw.

“Mae nifer o deuluoedd yn gwneud cais i gael cadw’r addurn wedyn, ac mae llawer ohonyn nhw’n eu rhoi nhw ar eu coeden eu hunain yn y blynyddoedd sy’n dilyn.”

Hanes y goeden goffa flynyddol

Fel yr eglura Gareth Watts, mae’r goeden goffa wedi dod yn rhan bwysig o’r Nadolig yn nhref Maesteg a’r ardal leol.

“Dechreuodd y goeden goffa pan wnaeth ein heglwys lleol, Dewi Sant, benderfynu cael gŵyl coed Nadolig,” meddai.

Coeden goffa Maesteg
Y goeden goffa yng nghapel gorffwys Zoar ym Maesteg

“Yn Eglwys Dewi Sant ym Maesteg, fe wnaethon nhw wahodd llawer o sefydliadau i godi coeden yn yr eglwys.

“Byddai [y goeden goffa] fel arfer yn cael ei chodi ar benwythnos parêd y Nadolig ym Maesteg, oherwydd byddai llawer o bobol yn y dref a byddai’n denu tipyn o ymwelwyr.

“Dechreuodd [yr ŵyl] gyda rhyw bymtheg o goed, ond y flwyddyn olaf, roedd tua 30 ac felly roedd y peth wedi tyfu’n fawr.

“Ein coeden ni oedd y canolbwynt i raddau helaeth iawn, a hynny oherwydd ei natur hi fel coeden goffa.”

Addurniadau

Mae’r holl addurniadau wedi’u gwneud â llaw yn yr ardal leol.

“Ar bob addurn mae enw pobol y gwnaethon ni drefnu a chynnal eu hangladdau – o Ragfyr 1 y flwyddyn gynt hyd at ddiwedd Tachwedd y flwyddyn wedyn,” meddai Gareth Watts.

“Oherwydd bod yr ŵyl coed Nadolig a’r parêd bob amser ar ddydd Sadwrn cyntaf Rhagfyr, dyna pryd roedd ein terfyn ni.

“Er mwyn peidio â gadael pobol allan ar gyfer y flwyddyn ganlynol, aethon ni o Ragfyr 1 ymlaen.

“Fy niweddar wraig Paula ddechreuodd wneud yr addurniadau y flwyddyn gyntaf, ond roedden ni’n sylweddoli’n gyflym iawn y byddai amser yn brin, felly cawson ni drydydd partïon i’w gwneud nhw i ni wedyn.

“Eleni, mab a merch-yng-nghyfraith fy nghyfnither Wendy sydd wedi’u gwneud nhw i ni.”

Urddas

Mae’r mwy na 300 o enwau sy’n ymddangos ar y goeden goffa eleni yn arwydd o ba mor brysur fu’r cwmni yn niwedd 2020 a thrwy gydol 2021.

“Dw i’n falch iawn o’r ffordd rydyn ni wedi addaasu ac wedi newid y ffordd rydyn ni’n gweithio ychydig bach er mwyn sicrhau bod angladdau’n dal i gael eu cynnal gyda digon o urddas a thosturi, hyd yn oed ar yr adegau mwyaf anodd pan mai deg o bobol yn unig oedd yn cael bod mewn angladdau,” meddai.

“Fe wnaethon ni lwyddo o hyd i wneud pethau yn y ffordd iawn.”