Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio’n unfrydol i barhau â’r penderfyniad gwreiddiol i gau Ysgol Abersoch.
Bydd yr ysgol yn cau ym mis Rhagfyr eleni yn dilyn ail bleidlais, wedi i’r Cabinet gael ei alw’n ôl i drafod y penderfyniad gwreiddiol.
Cafodd pryderon eu codi gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi am y penderfyniad i gau’r ysgol, wedi i aelodau gyfeirio at gynlluniau i adeiladu tai newydd a chyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal.
Bydd y saith disgybl sy’n mynychu’r ysgol ar hyn o bryd yn cael eu symud i Ysgol Sarn Bach, cwta filltir a hanner i ffwrdd o Abersoch.
Yn ystod y cyfarfod heddiw (dyddd Mawrth, Tachwedd 9), fe wnaeth Dewi Roberts, Cynghorydd Abersoch, annog y Cabinet i gadw’r ysgol ar agor, gan ofyn iddyn nhw ystyried y gymuned a goblygiadau ei chau ar y Gymraeg.
Pryderon
Yn ôl y Pwyllgor Craffu, roedd yr adroddiad yn “wallus ac yn gamarweiniol o ran yr effaith ar y gymuned”, a’r effaith ar y Gymraeg.
Roedd pryderon hefyd na chafodd cynlluniau i adeiladu gwesty newydd, a fyddai’n creu 40 o swyddi, a’r ffaith fod tir wedi’i glustnodi ar gyfer adeiladu pymtheg o dai fforddiadwy, eu hystyried yn addas.
Roedden nhw hefyd yn cwestiynu’r penderfyniad i gau’r ysgol ym mis Rhagfyr, yn ystod y flwyddyn academaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod y Cabinet dros Addysg, a Garem Jackson, pennaeth addysg y Cyngor, eu bod nhw’n teimlo bod yr adroddiad yn deg, a bod y pryderon wedi cael eu hystyried.
Ychwanegodd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, fod y gair “os” yn codi’n aml wrth drafod datblygiadau posib o ran tai a swyddi newydd.
Byddai adeiladu ugain o dai yn golygu y byddai llai nag wyth o blant ychwanegol yn yr ysgol, meddai Dafydd Gibbard, prif weithredwr Cyngor Gwynedd, yn ystod y cyfarfod.