Mae un o bwyllgorau Cyngor Gwynedd wedi galw am graffu ar y penderfyniad fis diwethaf i gau Ysgol Abersoch.

Fis diwethaf, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymeradwyo’r penderfyniad er gwaetha’r pryderon ymhlith y gymuned leol yn dilyn ymgyrch gyhoeddus i’w chadw ar agor, gydag ymgyrchwyr iaith yn mynegi pryderon am effaith cau’r ysgol ar ddiwylliant y pentref.

Yn wahanol i weddill y sir, hyd at ddiwedd Blwyddyn 3 yn unig y caiff disgyblion eu haddysg yno, cyn iddyn nhw symud i Ysgol Sarn Bach am weddill eu haddysg gynradd.

Ond wrth wneud y penderfyniad, fe fu craffu ar ragolygon ar gyfer nifer y disgyblion fyddai’n mynd i’r ysgol yn y dyfodol – mae’n costio £17,404 y pen i’r awdurdod lleol o gymharu â chyfartaledd y sir o £4,198.

Mae disgwyl i Ysgol Sarn Bach, ryw filltir a hanner i ffwrdd, addysgu pob plentyn trwy gydol eu haddysg gynradd, ac mae cludiant ar gael o’r pentref eisoes.

Codi amheuon

Ond mae penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd, sydd dan reolaeth Plaid Cymru, wedi cael ei gwestiynu gan dri chynghorydd – un o blaid Llais Gwynedd a dau aelod annibynnol, ac mae disgwyl dadl bellach yr wythnos nesaf.

Er nad oes gan y Pwyllgor Craffu Addysg a’r Economi y grym i wyrdroi’r penderfyniad, mae modd iddyn nhw ddychwelyd y penderfyniad i’r Cabinet os yw aelodau’n teimlo bod materion sy’n cael eu crybwyll yn ddilys a bod sail iddyn nhw.

Mae’r tri chynghorydd wedi mynegi pryder bod yr adroddiad “yn anghywir a chamarweiniol yn nhermau’r effaith ar y gymuned” a’r iaith Gymraeg.

Dydy’r adroddiad heb roi ystyriaeth chwaith i dai a chyflogaeth yn y dyfodol, gan gynnwys adeiladu gwesty newydd a fydd yn creu 40 o swyddi newydd, a thir sydd wedi’i glustnodi ar gyfer codi 15 o dai newydd ym Mryn Garmon.

Mae pryder hefyd am y llwybr troed rhwng Abersoch a Sarn Bach, a honiadau nad yw un plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant rhad ac am ddim yn sgil polisïau oedran.

Mae amheuon, yn ogystal, y gallai cau’r ysgol yng nghanol y flwyddyn academaidd fod yn “ddryslyd i’r plant” ac y byddai’n cael “effaith negyddol ar eu haddysg” heb eglurhad o’r rhesymeg.

Yr iaith Gymraeg ac ail gartrefi

Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad yr awdurdod lleol i gau Ysgol Abersoch, gan eu cyhuddo o “danseilio’u polisïay tai ac iaith eu hunain drwy droi cefn ar Abersoch”.

“Mae hyn yn anfon neges glir i gymunedau eraill dan straen nad yw’r cyngor yn barod i sefyll i fyny drostyn nhw,” meddai Ffred Ffransis.

“Roedd asesiadau’r cyngor eu hunain yn cydnabod y byddai cau’r ysgol yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg a’r gymuned, eto i gyd maen nhw wedi eu hanwybyddu nhw.

“Maen nhw wedi bradychu’r gymuned fregus hon ac wedi tanseilio’u gobeithion o ddefnyddio’r ysgol fel sail ar gyfer adfywio’r iaith Gymraeg yn lleol.”

Er gwaetha’r awgrym y gellid cynnal Cylch Ti a Fi yn Abersoch ar ôl i’r ysgol gau, mae’r Cynghorydd Dafydd Meurig yn dweud bod y “niwed wedi’i wneud drwy flynyddoedd o fewnfudo a’r defnydd o gynifer o ail gartrefi”.

Mae swyddogion hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod 21 allan o’r 26 o blant yn y dalgylch yn cael eu haddysg mewn ysgolion eraill ac nid yn Ysgol Abersoch.

Maen nhw’n dweud y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i “annog cydweithrediad cymunedol” rhwng yr ysgol a’r gymuned, ac yn addo y bydd pob plentyn oed meithrin yn cael cynnig cludiant rhad ac am ddim i Ysgol Sarn Bach er gwaetha’r rhesymau a gafodd eu nodi yn y cais i alw’r penderfyniad i mewn.

Bydd y Pwyllgor Craffu Addysg a’r Economi yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod ddydd Iau (Hydref 21),