Mae’r heddlu’n cynyddu patrolau ar ôl i ddamwain achosi pryderon am gynnydd mewn pobol yn “gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau” mewn ardaloedd gwledig.
Dywed Heddlu’r Gogledd y byddan nhw’n patrolio mwy ar ôl damwain a ddigwyddodd rhwng Nefyn a Morfa Nefyn yn gynharach yn y mis.
Dywedon nhw fod dyn wedi cael ei arestio a’i holi o ganlyniad i’r digwyddiad.
“Yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd ddydd Sadwrn diwethaf (9/10) rhwng Nefyn a Morfa Nefyn, Pwllheli, mae dyn lleol wedi cael ei arestio a’i gyfweld,” meddai llefarydd.
“Mae ymholiadau’r heddlu i’r digwyddiad hwn yn parhau.
“Yn dilyn pryderon lleol am y digwyddiad hwn, byddwn yn cynyddu patrolau yn yr ardal i fynd i’r afael â gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, gan gynnwys defnyddio ceir heddlu heb eu marcio.
“Os oes gennych bryderon bod rhywun yn eich ardal yn yfed neu yrru cyffuriau, ffoniwch yr heddlu ar unwaith.”
Cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i’r ddamwain am 10.20pm ddydd Sadwrn, Hydref 9 ar ôl adroddiadau bod fan wen wedi bod mewn gwrthdrawiad â nifer o gerbydau oedd wedi’u parcio.
“Fe wnaeth gyrrwr y cerbyd geisio dianc oddi yno, ond cafodd ei leoli’n fuan gan swyddogion ac fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru a methu aros yn safle’r digwyddiad,” meddai’r llefarydd wedyn.
“Os oedd unrhyw un yn dyst i’r digwyddiad hwn, â lluniau teledu cylch cyfyng neu dashcam, yna cysylltwch â’r heddlu, gan ddyfynnu’r cyfeirnod z148794.”