Mae Colin Powell, cyn-arweinydd milwrol yr Unol Daleithiau a fu’n dadlau dros Ryfel Irac, wedi marw yn 84 oed.

Mae Tony Blair, cyn-brif weinidog y Deyrnas Unedig, wedi talu teyrnged iddo gan ddweud bod ganddo “dal gymaint i’w roi”.

Dywedodd teulu Colin Powell, a fu’n Ysgrifennydd Gwladol hefyd, ei fod wedi marw yn sgil cymhlethdodau yn ymwneud â Covid-19.

Roedd yn gyfrifol am ddarllen araith yn y Cenhedloedd Unedig yn 2003 yn manylu ar arfau mawr Saddam Hussein, honiadau a oedd yn seiliedig ar wybodaeth ffug yn y pen draw.

‘Ffigwr aruthrol’

“Roedd Colin yn ffigwr aruthrol yn arweinyddiaeth filwrol a gwleidyddol America dros nifer o flynyddoedd, rhywun oedd â gallu a gonestrwydd anferth, personoliaeth hynod hoffus a chynnes, a chydymaith gwych gyda hiwmor hyfryd a hunanfychanol,” meddai Tony Blair, oedd wrth y llyw yn Downing Street adeg dechrau Rhyfel Irac.

“Roedd e’n hyfryd gweithio gydag e, roedd yn ysbrydoli ffyddlondeb a pharch, ac yn un o’r arweinwyr hynny oedd bob tro’n trin y rhai oddi tano â charedigrwydd a diddordeb.

“Mae ei fywyd yn dyst i gred gref mewn parodrwydd i weithio dros wahaniaethau gwleidyddol er budd ei wlad, yn ogystal ag ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus.

“Mae’n ddrwg gen i glywed y newyddion am ei farwolaeth. Roedd ganddo dal gymaint i’w roi.”

Cynigiodd y cyn-brif weinidog ei “feddyliau a’i weddïau” i weddw Colin Powell, a’i “deulu estynedig mawr a chariadus”.