Mae dyn 66 oed wedi cael ei gyhuddo mewn perthynas â thân bwriadol yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae David Fraser Taylor wedi’i gyhuddo o gynnau tân bwriadol heb ystyried a oedd bywydau mewn perygl.

Aeth e gerbron ynadon Merthyr Tudful ddydd Gwener (Hydref 15), ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar Dachwedd 12.

Mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau, ac fe fydd yr heddlu a’r gwasanaeth tân yn cydweithio ar yr ymchwiliad i geisio dod o hyd i achos y tân pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.

Yn sgil pryderon am ddiogelwch yr adeilad yn dilyn y tân ar Hydref 3, fe fydd adeiladwyr yn parhau i ddymchwel yr adeilad yn ddiogel.

Daeth asesiad i’r casgliad nad yw’r adeilad bellach yn ddiogel.

Dydy’r traffig ar yr A483 ddim wedi cael ei effeithio.