Mae Heddlu’r De yn dweud bod hosan yn cysylltu David Morris â llofruddiaethau pedair aelod o’r un teulu yng Nghlydach yn 1999.

Daw hyn ar ôl i’r heddlu gynnal adolygiad o’r newydd i’r dystiolaeth sy’n cysylltu’r dyn a gafwyd yn euog ac a gafodd ei garcharu yn dilyn y digwyddiad oedd wedi achosi cryn sioc yn y gymuned fach ger Abertawe yn 1999.

Daeth y cysylltiad rhwng David Morris, sydd bellach wedi marw, a’r llofruddiaethau i’r fei yn ystod asesiad annibynnol o nifer o faterion a gafodd eu codi gan ei gyfreithwyr.

Fe fu’r heddlu’n defnyddio technoleg nad oedd ar gael pan gafwyd Morris yn euog ddau ddegawd yn ôl.

Roedd yr achos ymhlith yr achosion mwyaf erioed yng ngwledydd Prydain ar y pryd.

Cafwyd Morris yn euog yn 2002 yn dilyn rheithfarn unfrydol ond fe gafodd e’r hawl i gynnal apêl yn sgil gwrthdaro buddiannau un o’i gyfreithwyr.

Mewn ail achos yn 2006, cafwyd e’n euog unwaith eto a’i garcharu am oes ond fe fu e a’i deulu’n gwadu ei fod e’n gyfrifol am ladd Mandy Power, ei mam Doris Dawson a’i merched Katie, 10, ac Emily, oedd yn wyth oed.

Aeth y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ati i ystyried yr achos o’r newydd yn 2018 ond penderfynon nhw beidio trosglwyddo’r achos i’r Llys Apêl gan nad oedd tystiolaeth newydd.

Fis Tachwedd y llynedd, cysylltodd cyfreithwyr Morris â Heddlu’r De yn gwneud cais am gyhoeddi tystiolaeth yn ymwneud â’u hymchwiliad.

Aeth yr heddlu ati wedyn i benodi swyddog i ofalu am yr ymchwiliad a labordy annibynnol i gynnal adolygiad o’r dystiolaeth fforensig, ac fe fu Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn arwain ar y gwaith hwnnw.

Yn dilyn marwolaeth David Morris ym mis Awst, rhoddodd ei deulu ganiatâd i’r heddlu gymryd samplau gwaed at ddibenion cynnal archwiliad fforensig.

Hosan yn ‘arwyddocaol’

Yn ôl yr heddlu, roedd yr hosan yn “arwyddocaol” i’r ymchwiliad gan fod modd ei gysylltu â DNA David Morris.

Ond maen nhw’n cydnabod nad oes modd dweud mwy am sut y gwnaeth ei DNA gyrraedd yr hosan – ond mae’n cael ei gydnabod yn eang fod y llofrudd wedi defnyddio’r hosan.

Yn ôl yr heddlu, dydy’r archwiliad diweddaraf “ddim wedi dod o hyd i wybodaeth sy’n tanseilio” y gred mai David Morris oedd wedi lladd y teulu.