Daeth cadarnhad y bydd Southend yn dod yn ddinas yn dilyn marwolaeth yr aelod seneddol Ceidwadol, Syr David Amess.

Roedd Amess, a fu farw ar ôl cael ei drywanu yr wythnos ddiwethaf, wedi galw’n gyson am roi statws dinas i’r dref yn Essex.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson y cyhoeddiad ar ran Brenhines Loegr yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Hydref 18), gan ddweud ei fod yn “hapus” bod Southend yn cael y statws mae’n “amlwg yn ei haeddu.”

Roedd aelodau seneddol wedi cynnal munud o dawelwch yn Nhŷ’r Cyffredin fore Llun (Hydref 18) i gofio David Amess, ac roedd gwasanaeth swyddogol hefyd yn yr Eglwys Santes Margaret gyfagos.

Yn dilyn y digwyddiad yn Leigh-on-Sea, mae gŵr 25 oed, Ali Harbi Ali, wedi ei arestio ac mae gan yr heddlu tan ddydd Gwener (Hydref 22) i’w holi.

Cyhoeddiad y Prif Weinidog

Roedd aelodau seneddol yn bloeddio’n llon yn Nhŷ’r Cyffredin wrth i’r prif weinidog wneud y cyhoeddiad.

“Gan mai dim ond amser byr sydd ers i Syr David gyflwyno’r union achos hwnnw i fi yn y siambr hon, rwy’n hapus i gyhoeddi bod Ei Mawrhydi wedi cytuno y bydd Southend yn cael y statws dinas y mae’n amlwg yn ei haeddu,” meddai Boris Johnson.

“Mae’r ffaith fod Syr David wedi treulio bron i 40 mlynedd yn y Tŷ hwn, ond ddim un diwrnod mewn swydd weinidogol, yn adrodd cyfrolau am le’r oedd ei flaenoriaethau.”

Ymateb Keir Starmer

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud ei fod e “mor falch” o’r cyhoeddiad.

“Mae’n deyrnged addas i waith caled Syr David,” meddai yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Mae’n addas oherwydd bod David yn cyflawni ar gyfer yr achosion yr oedd yn eu credu ynddyn nhw.

“Pasiodd Fil a orfododd weithredu ar dlodi tanwydd, fe wnaeth baratoi’r ffordd ar gyfer gwell safonau diogelwch tân a darparu amddiffyniadau ar gyfer lles anifeiliaid.

“Roedd yn wleidydd oedd â’i flaenoriaethau yn y lle iawn, ac un oedd yn rhoi ei bobol o flaen ei blaid a’i ardal o flaen ei ddatblygiad personol.”