Mae gwleidydd wedi lambastio trafodaethau am statws dinas i Wrecsam, gan ddweud eu bod yn cael eu cynnal “yn gyfrinachol”.

Datgelodd Cyngor Wrecsam ym mis Gorffennaf ei fod yn ystyried cystadlu am y statws.

Mae cynghorwyr wedi dadlau bod gan Wrecsam achos cryf fel y dref fwyaf yn y Gogledd, er iddi golli allan ar statws dinas yn 2000, 2002 a 2012.

Fodd bynnag, cyhuddwyd bwrdd gweithredol yr awdurdod lleol o weithredu “yn gyfrinachol” ynghylch y broses.

Mae hyn yn dilyn diweddariad i aelodau Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig Wrecsam, ynghylch a fyddai cais yn sicrhau manteision economaidd i’r ardal ai peidio.

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, Marc Jones, fod y wybodaeth wedi cael ei darparu fel adroddiad yn ystod y cyfarfod preifat – ond dywedodd prif weithredwr y cyngor mai dim ond diweddariad llafar a gafwyd.

“Mae’r glymblaid Dorïaidd-Annibynnol sy’n rhedeg Cyngor Wrecsam wedi dechrau proses i wneud cais am statws dinas,” meddai’r Cynghorydd Jones.

“Rhan gyntaf y broses honno oedd comisiynu ymgynghorwyr i asesu manteision ac anfanteision statws dinas.

“Mae’r adroddiad hwnnw, dywedir wrthyf, wedi cael ei gyflwyno i’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig – corff anetholedig sy’n cyfarfod yn gyfrinachol ac nad yw’n cyhoeddi cofnodion.

“Gallaf ond ddyfalu nad yw adroddiad yr ymgynghorwyr yn darparu’r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi achos dros statws dinas. Pe bai’n gefnogol, mae’n siwr y byddem wedi cael gwybod erbyn hyn.

“Mae hwn yn gyngor sy’n gwneud penderfyniadau heb gynnwys aelodau etholedig, heb rannu gwybodaeth bwysig a chan fethu ag ymgysylltu â’r bobl ar fater pwysig fel statws dinas.”

“Ymgysylltu â’r cyhoedd”

Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig yn cynnwys nifer o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol ledled Wrecsam, ynghyd â busnesau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jones bod gwleidyddion meinciau cefn i fod i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cais yn ystod cyfarfod cyfrinachol sy’n cael ei gynnal yfory (dydd Mawrth, Hydref 19).

Ychwanegodd ei fod wedi gofyn am gael gwybodaeth ymlaen llaw ond gwrthodwyd ei gais.

Dywedodd prif weithredwr y cyngor y byddai ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd cyn gwneud cais.

Dywedodd Ian Bancroft: “Nid oes adroddiad wedi’i rannu gyda’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig.

“Maen nhw wedi derbyn diweddariad llafar gan ein bod wedi bod yn ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl randdeiliaid.

“Mae gweithdy i aelodau ddydd Mawrth lle bydd gan gynghorwyr yr holl wybodaeth gyfredol sydd ar y gwaith hyd yma ar ddechrau’r ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd.”

“Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth”

Y tro diwethaf i Wrecsam fynd am statws dinas oedd yn 2012 – Llanelwy enillodd bryd hynny er i bod yn llawer llai.

Mae’r cais posibl diweddaraf wedi cael ei groesawu gan arweinwyr busnes, a’i disgrifiodd fel “cyfle unwaith mewn cenhedlaeth”.

Ac fe gafodd gobeithion Wrecsam hwb yn ddiweddar gyda’r newyddion fod Merthyr Tudful, yr unig dref arall yng Nghymru oedd yn y ras, wedi tynnu allan.

Ond mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi galw’r cais yn “syniad gwael” ac mae ymateb negyddol wedi bod gan rai trigolion ar y cyfryngau cymdeithasol.