Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, wedi croesawu ymdrechion menter gydweithredol i brynu tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron.

Daeth y gymuned leol ynghyd ym maes parcio’r dafarn ddydd Sadwrn diwethaf (Tachwedd 6) i fuddsoddi yn y fenter ac i gefnogi’r ymdrechion i brynu’r dafarn.

Ddiwrnod ar ôl lansio’r Fenter, roedd y criw eisoes wedi codi £41,703 gyda chefnogaeth dros 70 o fuddsoddwyr.

Mae ganddyn nhw darged ariannol o £330,000 yn ystod y pum wythnos nesaf erbyn y dyddiad cau, sef Rhagfyr 12, er mwyn prynu’r adeilad a dechrau’r broses o ailagor y dafarn sydd wedi bod ynghau ers rhai wythnosau ar ôl i’r les ddod i ben.

‘Ergyd fawr’ colli’r dafarn

“Pan gaeodd Y Vale ei drysau ar ddechrau Hydref 2021, roedd yn ergyd enfawr i’r ardal, gan effeithio nid yn unig ar yr economi leol ond ar y seilwaith cymunedol hefyd,” medd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nyffryn Aeron.

“Rwy’n hynod falch o glywed am fwriad y gymuned i brynu’r dafarn fel menter gydweithredol.

“Rwy’n hyderus y bydd y prosiect hwn yn dod â buddion sylweddol i Ddyffryn Aeron, yn economaidd ac yn gymdeithasol.”

Un o’r llu o fudiadau sydd wedi datgan eu cefnogaeth i’r Fenter yw Clwb Ffermwyr Ifanc Felinfach.

“Mae’r dafarn wedi bod yn ganolfan gymdeithasol bwysig, sydd wedi cynnal iaith, diwylliant ac ymdeimlad o berthyn yn y dyffryn ar hyd y blynyddoedd, a byddai colli’r dafarn yn golled aruthrol i’r gymuned leol,” medd Ianto Jones o Glwb Felinfach.

Dywed y Fenter fod croeso i bobol fuddsoddi £200 neu ragor a bod ffurflen fuddsoddi ar gael drwy fynd i’r wefan: www.tafarn.cymru