Mae Mudiad Meithrin wedi lansio fideo yn annog rhieni di-Gymraeg i ddewis addysg Gymraeg i’w plant trwy’r Cylch Meithrin.

Cafodd Mudiad Meithrin nawdd gan Gronfa Glyndŵr i gynhyrchu’r fideo, sydd wedi cael ei ffilmio yng Nghylch Meithrin Coed Duon a Chylch Meithrin Nelson.

Mae nifer o rieni’n rhannu eu profiadau eu hunain o daith addysg Gymraeg eu plant, gan nodi bod digon o gefnogaeth ar gael i rieni di-Gymraeg pan fydd y plentyn wedi trosglwyddo o’r Cylch Meithrin i’r ysgol.

Er enghraifft, mae’r gwaith cartref a’r llythyron ar gael yn ddwyieithog, ac mae apiau fel Duolingo a Dewin a Doti ar gael hefyd.

‘Safon uchel’

Dywed y Mudiad Meithrin fod nifer o rieni wedi nodi eu bod nhw wedi dysgu’r iaith ar y cyd â’u plant.

“Mae Mudiad Meithrin wedi bod yn rhedeg ers 50 mlynedd eleni ac mae pobol yn gwybod am safon uchel yr addysg a’r gofal plant sy’n ddisgwyliedig mewn bob Cylch Meithrin a’r modd y mae’r Cylch yn cyfoethogi a chefnogi eu haddysg Gymraeg cyn iddyn nhw barhau â’u haddysg Gymraeg yn yr ysgol leol,” meddai Ruth Corney, cyd-arweinydd Cylch Meithrin Nelson.

“Pam na fyddech chi am i’ch plentyn ddysgu sgil ychwanegol?” gofynna Sharon Lewis-Connolly, cyd-arweinydd arall yng Nghylch Meithrin Nelson.

“Rydyn ni’n rhoi sgiliau ieithyddol ychwanegol iddyn nhw  – ac mae modd iddyn nhw ddefnyddio’r sgiliau yna gydag unrhyw iaith arall hefyd.”