Mae llyfryn i ddisgyblion ysgol sy’n egluro pwysigrwydd yr ymgyrch i achub yr amgylchedd wedi cael ei addasu i’r Gymraeg i gyd-fynd ag uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26, ac mae hynny’n “dangos grym y Gymraeg rywsut, i allu ymdopi gyda phynciau digon astrus, digon anodd, ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n ddeniadol ac yn denu diddordeb”.
Dyna farn yr Athro Gareth Ffowc Roberts o Gangen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r pwyslais yn Oherwydd IPCC!, sydd wedi’i addasu gan y Gangen, ar waith pwyllgor newid hinsawdd IPCC (Intergovernmental Panel on Climate Change) y Cenhedloedd Unedig.
Cafodd y llyfr, sydd wedi’i anelu at ddisgyblion uwchradd, ei ddatblygu yng Nghanada, ac mae’n esbonio sut mae gwaith pwyllgor IPCC wedi perswadio llywodraethau i weithredu ar newid hinsawdd.
Mae addysg trwy’r ysgol yn cwmpasu “pob math o bethau’r dyddiau yma”, meddai’r Athro Gareth Ffowc Roberts, is-gadeirydd Cangen Menai, wrth golwg360.
Mae cael adnodd cyfrwng Cymraeg yn hwb i hynny, meddai.
‘Amserol iawn’
“Mae’r ffaith fod y Fagloriaeth yn cael ei dysgu mewn ysgolion yn hwb pellach oherwydd mae’r Fagloriaeth yn ymestyn ac yn annog disgyblion ysgol i gymryd golwg eang ar y byd a’i bethau,” meddai’r Athro Gareth Ffowc Roberts wrth golwg360.
“Mae’r adnodd yn y Gymraeg yn hwb i gynorthwyo hynny.
“Hefyd, wrth gwrs, mae yna ddiddordeb gan bobol ifanc. Rydyn ni wedi gweld yn Glasgow, y diddordeb sydd yna gan bobol ifanc yn y maes newid hinsawdd.”
Mae’n dweud bod y llyfryn wedi cael ei gyfieithu i nifer o ieithoedd eraill dros y byd.
“Wedyn mae hi’n amserol iawn oherwydd hynny bod yna adnoddau ar gael yn y Gymraeg, yn ogystal â’r Saesneg,” meddai.
“Felly mae o’n dangos grym y Gymraeg rywsut, i allu ymdopi gyda phynciau digon astrus, digon anodd, ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n ddeniadol ac yn denu diddordeb.
“Does dim ond rhaid gofyn i blant ysgol, maen nhw’n gwybod eu hunain bod newid hinsawdd yn effeithio arnyn nhw ac mi fysa’ hi’n od iawn tasa’ ysgolion ddim yn ymateb i’r math yna o her eu hunain, fel eu bod nhw’n adlewyrchu poenau’r dydd, bygythiadau’r dydd o fewn cwricwlwm yr ysgol.”
‘Adnodd gwych’
Ar hyn o bryd, mae’r llyfr ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg yng Nghaernarfon, Pwllheli a Phorthmadog.
“Os byddwn ni’n gweld y bydd y peth yn llwyddo, a dw i’n meddwl y bydd o, mi fydd y peth ar gael yn ehangach,” meddai’r Athro Gareth Ffowc Roberts, gan ychwanegu ei fod ar gael ar y we hefyd.
“Mae o’n llyfryn, bron iawn fel comig, sydd yn hawdd i’w ddarllen. Gorau po fwyaf o bobol sy’n gallu edrych arno fo.
“Mae hwn yn adnodd gwych gan Gangen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig i ysgolion allu ymgysylltu ag ysgolion am y broses wyddonol ac mae’n tanlinellu awdurdod yr IPCC, sefydliad a gafodd ei sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig.
“Gallai ond bod yn help i ysgolion wella ymgysylltedd ynghylch sefyllfa newid hinsawdd.”
Camau annigonol
Daw sylwadau’r Athro Gareth Ffowc Roberts ar ôl i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, rybuddio heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 9) na fydd y camau sydd wedi’u cytuno hyd yn hyn yn ddigon i gyflawni’r amcanion a gafodd eu gosod yn y gynhadledd ddiwethaf ym Mharis bum mlynedd yn ôl.
Y prif gam oedd cyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd y ddaear i lai nag 1.5 gradd selsiws.
“Oni bai y gallwn weld cytundebau pellach ac ymrwymiadau pellach – rydym eisiau chwarae ein rhan yma yng Nghymru, ond dim ond fel rhan o ymdrech fyd-eang y gallwn wneud hynny – oni bai ein bod yn gweld y cytundebau hynny yn cael eu gwneud yn nyddiau olaf y gynhadledd, yna byddwn yn cael ein gadael yn delio â’r canlyniadau,” meddai.