Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru wedi cyhoeddi ei bod hi’n gadael ei swydd.
Daw penderfyniad Louise Magee yn dilyn etholiadau llwyddiannus i’r blaid yn y Senedd yn gynharach eleni.
Mewn e-bost, dywed ei bod hi’n bryd iddi adael, ac mae hi wedi llongyfarch tîm “gwych ac ymroddedig” ar brofi’r polau piniwn, beirniaid gwleidyddol a’r gwrthbleidiau’n anghywir.
Bu’n Ysgrifennydd Cyffredinol ers 2017, gan arwain y blaid mewn sawl etholiad hyd at eleni, wrth i Lafur Cymru lwyddo i ddal eu gafael ar eu grym yn y Senedd.
Teyrngedau
Mae pobol flaenllaw o fewn y blaid, gan gynnwys y prif weinidog Mark Drakeford, wedi talu teyrnged iddi.
Diolchodd y prif weinidog iddi am ei “mewnwelediad a ffocws strategol” ar ôl i’r blaid ennill 30 o seddi yn etholiadau’r Senedd yn ogystal â sicrhau tri Chomisiynydd Heddlu o’r Blaid Lafur.
Dywedodd fod ei “mewnwlediad, ffocws strategol ac ymarweddiad diwyro” yn “nodweddion prin weithiau yn y byd gwleidyddol”, a’i bod hi “wedi cyflawni y tu hwnt i’r disgwyl” ar ran y blaid.
Dywedodd hefyd fod ymgyrch Llafur Cymru yn etholiadau’r Senedd “yn ganlyniad gwych ond hefyd yn ymgyrch wych”, a bod llawer o “fwynhad” i’w gael wrth ymgyrchu “ar y diwrnodau mwyaf anodd”.
Ychwanegodd ei bod hi’n gadael “tîm sy’n barod i ateb yr heriau sydd o’n blaenau”.
Mae Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru, wedi bod yn sôn am “y parch aruthrol sydd gan bawb yn y Blaid iddi ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig”.
Dywedodd ei bod hi “wedi gwneud y rôl yn rhywbeth eithaf gwahanol”, gan dalu teyrnged i’w “ffyddlondeb”.
“Mae gan Louise un o’r meddyliau ymgyrchu mwyaf craff y cefais y pleser o weithio ochr yn ochr â nhw,” meddai, gan ychwanegu â’i thafod yn ei boch iddi gael ei llusgo rywdro i lansiad y fan hysbysebion am 6 o’r gloch y bore ar ddydd Mercher oer yn Ebrill.
Ychwanegodd ei bod hi’n “ffrind yn ogystal â chydweithiwr”, ac y bydd colled ar ôl “ei sgiliau, ei dyfalbarhad a’i hiwmor arbennig”.
Dywed ei bod hi’n gadael “gwaddol y bydd Llafur Cymru’n elwa ohoni am flynyddoedd lawer i ddod”.
Mae’r blaid hefyd wedi diolch iddi am “rannu cyfrinachau” llwyddiant Llafur Cymru gyda’r blaid ledled y Deyrnas Unedig.
Bydd Llafur Cymru nawr yn chwilio am ei holynydd.