Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar garchar y Berwyn i gynnig codiad cyflog teg er mwyn cadw gweithwyr.

Daw ei sylwadau ar ôl iddi ddod i’r amlwg yn ystod Cwestiynau Seneddol Ysgrifenedig fod £1.742m wedi cael ei wario ar recriwtio a hyfforddi staff dros gyfnod o wyth mis yn y carchar yn Wrecsam.

Mae Liz Saville Roberts yn cyhuddo’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o “wastraff arian cyhoeddus catastroffig”.

Yn ystod y sesiwn, dywedodd fod staff y carchar dan “straen eithriadol”, sydd wedi arwain at argyfwng staffio, gyda 134 o staff band tri wedi gadael eu gwaith ers dechrau’r flwyddyn, a hwythau wedi costio £13,000 yr un i’w recriwtio a’u hyfforddi.

Gofynnodd hi i Dominic Raab, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, a oedd e’n cytuno bod “staff carchardai da yn haeddu cyflogau go iawn”, ac i ymrwymo i gyflwyno argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau yn llawn.

Y cwestiwn

“Mae cyffuriau mewn carchardai’n achosi anhrefn, gan roi staff carchardai dan straen eithriadol,” meddai.

“Mae’r fath straen yn ffactor yn argyfwng staffio’r carchardai.

“Mae tri swyddog band tri wedi gadael ers dechrau’r flwyddyn, gyda hyfforddiant pob swyddog yn costio £13,000. Mae hynny’n wastraff £1.74m o arian cyhoeddus.

“A fyddai o’n cytuno bod cyflwyno argymhellion cyflogau y Corff Adolygu Cyflogau yn llawn yn rhan allweddol o’r ateb i’r argyfwng, a bod staff carchardai da yn haeddu cyflogau go iawn?”

Amau’r ateb

Wrth ateb, dywedodd Dominic Raab fod argymhellion cyflogau’r Corff Adolygu Cyflogau wedi cael eu derbyn.

Ond ymatebodd Liz Saville Roberts drwy ddweud nad oedden nhw wedi cael eu derbyn yn llawn, gan egluro bod Tim Flesher, cadeirydd y Corff Adolygu Cyflogau, wedi ysgrifennu at Dominic Raab ar Hydref 22 yn cwyno nad oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi derbyn argymhellion 1 a 5.

Roedd hyn, meddai, yn cyfyngu ar allu’r Bwrdd i wneud argymhellion blaengar.

Ymateb pellach

“Ni ellir godde’r gwastraff arian catastroffig yma,” meddai Liz Saville Roberts wedi’r sesiwn.

“Unwaith eto, gwelwn yr addewidion ynghylch carchar mawr y Berwyn yn disgyn yn deilchion.

“Cawsom wybod y byddai’n rhatach rhedeg y carchar fesul carcharor yng Nghymru a Lloegr – ond gyda throsiant staff uchel, trais ac endemig hunan-niweidio, mae’n amlwg nad yw’r model hwn yn gweithio, yn syml iawn.

“Rhaid i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder dderbyn argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau’n llawn er mwyn mynd i’r afael â’r materion strwythurol yn y system gyflogau.

“Yn y tymor hirach, rhaid i ni weithio tuag at system ddatganoledig ar gyfer Cymru gyda chyfiawnder adferol wrth ei chalon.”