Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn fe fydd Ysgol Gynradd Abersoch ym Mhen Llŷn yn cau yn swyddogol.

Mae rhai o’r pentrefwyr wedi eu cynddeiriogi gyda phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i’w chau, ac yn eu cyhuddo o roi materion cyllid o flaen iaith a chymuned mewn pentref ble mae 55% o’r tai yn dai haf.