Mae data newydd sy’n awgrymu bod Omicron yn llai tebygol o achosi salwch difrifol yn rhoi “llygedyn o obaith Nadoligaidd,” yn ôl un swyddog iechyd amlwg.
Yn ôl yr amcangyfrifon, mae’n debyg bod rhywun sydd wedi ei heintio gyda’r amrywiolyn rhwng 50% a 70% yn llai tebygol o orfod mynd i’r ysbyty, o gymharu gyda rhywun sydd â’r amrywiolyn Delta.
Er hynny, roedd Dr Jenny Harries, Prif Weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (UKHSA), yn rhybuddio y byddai’n rhaid parhau i fod yn wyliadwrus o fygythiad Omicron, fu’n lledaenu’n gyflym yn yr wythnosau diwethaf.
Yr amrywiolyn hwn yw’r mwyaf amlwg yn yr holl achosion Covid-19 yn y Deyrnas Unedig bellach, a dywedodd Dr Harries bod achosion ohono yn parhau i ddyblu yn y “rhan fwyaf o ranbarthau.”
Ddoe (dydd Iau, 23 Rhagfyr), cafodd 236 achos newydd o Omicron eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan godi’r cyfanswm i dros 1,000.
‘Llygedyn o obaith Nadoligaidd’
Dywedodd Dr Harries wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fod angen mwy o wybodaeth, yn enwedig am yr effaith ar gleifion oedrannus a mwy bregus.
“Mae llygedyn o obaith Nadoligaidd yn y canfyddiadau a gafodd eu cyhoeddi ganddon ni ddoe,” meddai.
“Ond yn bendant, dydyn ni ddim eto wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn ddweud bod y bygythiad difrifol hwnnw wedi lleihau.
“Yr hyn sydd gennyn ni nawr yw cydbwysedd perffaith rhwng y risg is o fynd i’r ysbyty – sy’n newyddion gwych – ond ar y llaw arall, mae’r amrywiolyn yn drosglwyddadwy iawn ac yn gallu osgoi rhai o’n hamddiffynfeydd imiwnedd.
“Felly mae’n sefyllfa gytbwys iawn.”
Roedd achosion o Covid-19 wedi codi o 6,755 yn y diweddariad mwyaf diweddar ddoe (dydd Iau, 23 Rhagfyr), gyda phryderon y gallai niferoedd uchel o bobol yn hunanynysu achosi bylchau mewn gwasanaethau erbyn y flwyddyn newydd.