Mae’r llyfr ryseitiau newydd Casa Cadwaladr wedi profi tipyn o lwyddiant yn y misoedd diwethaf, gan werthu allan yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Fe wnaeth yr awdures a’r actores Rhian Cadwaladr gael cynnig i gyhoeddi’r llyfr ar ôl rhoi blas o’i ryseitiau ar dudalen Facebook ‘Curo’r Corona’n Coginio’ yn ystod y cyfnod clo.
Roedd 800 o gopïau wedi eu hargraffu a bellach mae pob un wedi hedfan oddi ar silffoedd y siopau Cymraeg, gydag un yn mynd i ddwylo cyfarwydd y gogyddes Nigella Lawson.
Mae’r llyfr yn cynnwys cymysgedd o ryseitiau mae Rhian wedi eu casglu dros y blynyddoedd, yn ogystal ag atgofion sy’n gysylltiedig â nhw.
“Gwirioni a synnu”
Roedd Rhian Cadwaladr yn rhyfeddu ar ôl i’w llyfr werthu allan mor gyflym.
“Mae’n anodd credu,” meddai’r awdures, actores a chogyddes boblogaidd wrth golwg360.
“Mae lot o’r llwyddiant gyda diolch i dudalen ‘Curo’r Corona’n Coginio’ ar Facebook, achos dw i wedi bod yn rhoi pethau ar hwnna. Mae ‘na gymaint o ddilynwyr ganddyn nhw, dyna oedd y marchnata mewn ffordd.
“Dw i wedi gwirioni a synnu gweld cymaint o bobol yn gwneud y ryseitiau sydd ynddo, ac roedd fy mhartner i’n dweud – ‘Be oedda’ chdi’n disgwyl?’
“Ges i rywun ddoe yn dweud eu bod nhw am wneud y gacen pistachio ac oren, a rhywun arall wedi gwneud y starters madarch; rhywun arall yn gwneud y jin mwyar duon.
“Mae hynny yn synnu fi a dw i’n meddwl fy mod i wedi llwyddo i daro beth mae pobol yn ei goginio, rhywsut.”
Mwy ar y ffordd?
Does dim cadarnhad eto a fydd y llyfr yn cael ei ailargraffu, felly bydd yn rhaid i’r rheiny sy’n awyddus i gael cip ar y ryseitiau ddal eu dŵr.
“Dw i wrth fy modd wrth gwrs, ond hefyd mae ‘na deimlad annifyr bod pobol eisio fo a bod ‘na ddim un ar gael iddyn nhw,” meddai.
“Dw i’n gobeithio fydd neb yn siomedig ‘fory – yn disgwyl cael un fel presant ‘Dolig a’u bod nhw ddim wedi!”
Mae Rhian yn gobeithio pe bai digon o alw y byddai copïau newydd yn cael eu hargraffu… ac mae ail lyfr newydd ryseitiau yn bosibilrwydd hefyd.
Nigella yn ffan!
Ddechrau’r mis fe fu Rhian Cadwaladr yn sôn am Casa Cadwaladr wrth gylchgrawn Golwg.
Bu’n esbonio bod y llyfr ryseitiau wedi denu sylw cogyddes adnabyddus wedi i Rhian Cadwaladr ddangos lluniau o’i bwyd ar ap Nigella Lawson, Foodim. Roedd Nigella wedi ymateb i ambell lun ac wedi dangos diddordeb yn y llyfr, esbonia Rhian.
“A’r peth nesa, dyma rywun yn dweud eu bod nhw wedi clywed Nigella yn sôn am y llyfr ar raglen Behnaz Akhgar ar Radio Wales, a’i bod hi eisiau cael cyfieithiad ohono fo. Dw i wedi gyrru copi o’r gyfrol ati erbyn hyn,” meddai Rhian, sy’n dweud ei bod “dal ddim yn credu” bod ganddi lyfr coginio ei hun.
“Mae fy silff lyfrau’n llawn llyfrau coginio, a dw i wedi rhoi un fi nesa i un Gordon Ramsay a Jamie Oliver!”
Gallwch ddarllen yr erthygl a gyhoeddwyd am Casa Cadwaladr yng nghylchgrawn Golwg ddechrau’r mis drwy’r linc isod: