Mae cais wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn gofyn am yr hawl i adeiladu fferm wynt fyddai yn arnofio oddi ar arfordir Sir Benfro.
Bwriad cwmni Blue Gem Wind Ltd yw adeiladu rhwng 6 a 10 tyrbin gwynt o gwmpas 35km i’r de-orllewin o aber yr afon Cleddau, gyda cheblau yn dargludo’r trydan i’r lan ac i’r grid cenedlaethol.
Byddai gan Fferm Wynt Erebus y gallu i gynhyrchu hyd at 100MW o ynni, a allai fod yn ddigon i bweru miloedd o dai ar hyd a lled y grid.
Yn y flwyddyn newydd, bydd asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn adolygu’r cais, a bydd cyrff ymgynghori ac awdurdodau cyhoeddus yn cael eu galw i roi eu barn ar y cynllun yn dilyn hynny.
Cais cynllunio
Yr wythnos hon fe wnaeth cwmni Blue Gem Wind Ltd roi gwybod i Gyngor Sir Benfro am y cais ar gyfer y fferm wynt sy’n arnofio.
“Dyma hysbysiad bod Blue Gem Wind Ltd […] wedi rhoi cais i Weinidogion Cymreig o dan Adran 26 o Ddeddf Trydan 1989, i adeiladu a gweithredu gorsaf bŵer alltraeth,” meddai’r cwmni mewn datganiad.
“Mae’r cais yn ymwneud ag adeiladu a gweithredu 6 i 10 tyrbin gwynt ar y dŵr sydd â chapasiti uchaf hyd at 100 MW, i’w leoli oddeutu 35 km ar y môr i’r de-orllewin o Sir Benfro, de Cymru, ynghyd â cheblau trawsyrru ar y môr ac ar y tir a gwaith ategol arall.
“Bydd y fferm wynt alltraeth arfaethedig yn gorchuddio ardal alltraeth o oddeutu 43.5 km sgwâr.
“Bydd cebl o oddeutu 49 km o hyd yn cludo ynni o’r ardal i’r lanfa ym Mae West Angle. O’r fan hon, bydd oddeutu 12.5km o gebl trawsyrru tanddaearol yn cysylltu ag is-orsaf newydd ar y tir, wedi’i lleoli oddeutu 850m i’r de o Orsaf Bŵer Penfro, lle bydd yn cysylltu â’r grid cenedlaethol.”