Mae un o gynghorau sir y Gorllewin wedi bod yn targedu ysbwrgwn, gan ddal a dirwyo un am daflu paced o greision, ac un arall am fethu codi baw ci.

Ac ar drothwy’r Dolig, sy’n gyfnod o wyliau pan fydd trigolion allan yn cerdded eu cŵn ac yn cyfarfod yn yr awyr iach oherwydd y rheolau covid, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn rhybuddio na fyddan nhw yn goddef unrhyw daflu sbwriel sy’n groes i gyfraith gwlad.

Mae dirwyon wedi’u rhoi i bobl ledled y sir yn ddiweddar am ollwng sbwriel, baw cŵn a defnyddio cludwr heb drwydded i gael gwared â’i wastraff.

Mewn un achos, roedd un o drigolion y Rhondda wedi cael dirwy o £75 am ollwng paced o greision ar y llawr ym mhentref glan-y-môr Porth Tywyn.

Fe gafodd sawl un yr un faint o gosb am droseddau yn ymwneud â sigaréts – un o drigolion Rhydaman wedi cael dirwy o £75 am daflu paced o ffags allan o’i gar; un o drigolion Llanmilo am ollwng ei stwmpyn sigarét yn Nhalacharn; ac un o Lanelli am ollwng ei stwmpyn sigarét yn Stryd John y dref.

Bu i sawl un gael dirwy am ollwng y math anghywir o wastraff mewn canolfannau ailgylchu, ac fe gafodd un o drigolion Llangennech gosb o £75 am ollwng bag llwch hwfer llawn ar y llawr yng nghyfleusterau ailgylchu Morrisons yn Nhrostre, Llanelli

Baw Cŵn

Bu i sawl un o drigolion y sir gael £100 o gosb am fethu â chodi baw ci, ac fe gafodd un o drigolion Llanelli ddirwy o £300 ar ôl cael ei ffilmio ar CCTV yn gadael soffa yn Nhyisha, un o ardaloedd tlotaf Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd ar Gyngor Sir Gaerfyrddin:

“Mae gwaredu unrhyw wastraff yn anghyfreithlon yn difetha tirwedd ein sir a diolch i waith caled swyddogion y cyngor, rwy’n falch ein bod wedi gallu adnabod y bobl sy’n gyfrifol. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb na fyddwn yn goddef unrhyw fath o dipio anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.”

Mae modd rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon ar wefan y Cyngor, www.sirgar.llyw.cymru