Dim ond dau o bobol sydd wedi eu dirwyo am beidio â gwisgo mwgwd wrth siopa yn y gogledd, er iddi fod yn drosedd gwneud hynny drwy gydol y flwyddyn.
Dyna mae Heddlu’r Gogledd wedi datgelu yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan wefan North Wales Live.
Mae rhai siopwyr wedi gwrthod gwisgo mygydau a bu straeon am weithwyr y siopau yn cael eu cam-drin ar lafar ac yn gorfforol.
Gall yr heddlu roi dirwy o £60 am beidio â gwisgo mwgwd mewn siop neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda’r ddirwy yn dyblu ar gyfer pob tro mae’r drosedd yn cael ei hailadrodd, hyd at y ddirwy fwyaf o £1,920.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd wrth North Wales Live bod dwy ddirwy am beidio â gwisgo mwgwd wedi eu rhoi yn 2021, a’r rheiny am beidio â gwisgo mwgwd wrth siopa.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio nad yw’r perygl y mae covid yn ei achosi wedi diflannu, ac yn erfyn ar bawb i lynu at y rheolau a gwisgo mygydau yn y llefydd priodol.
Bu pryderon am rai pobol yn gwrthod gwisgo mygydau gydol y flwyddyn, a bellach mae hi am fod yn ofynnol i wisgo mwgwd wrth fynd i dafarn neu westy a ddydd Sul.