Mae Llywodraeth Cymru wedi talu £45m o iawndal i bobol sydd wedi eu heffeithio gan y gwaith o ehangu Ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Bwriad y gwaith ehangu ar yr A465 yw creu ffordd ddeuol yr holl ffordd o Sir Fynwy i Gastell Nedd Port Talbot.

Fe gychwynnodd y gwaith yn 2002 ac mae cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru yn dangos fod £45m wedi ei dalu i bobol sy’n cael eu heffeithio, a bod un unigolyn wedi hawlio £10m.

Gall berchnogion tir hawlio iawndal os yw gwerth eu tir neu eiddo yn gostwng oherwydd y gwaith ar y ffordd.

Dengys y wybodaeth gafodd y BBC fod 91 o bobol wedi hawlio arian ers y flwyddyn 2000 – ac mai’r iawndal lleiaf a dalwyd oedd £2.38, a’r uchaf oedd £10.7m.

Mae disgwyl i’r gwaith ar ddarn ola’r ffordd ddeuol gael ei gwblhau yn 2025.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae iawndal i unigolion a busnesau sy’n cael eu heffeithio gan gynlluniau ffyrdd yn cael ei dalu yn unol â gweithdrefnau statudol, ac fel arfer mae’n seiliedig ar gyngor gweithwyr proffesiynol sy’n cynrychioli’r partïon dan sylw.”