Mae undeb ffermio NFU Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad bod grantiau “hanfodol” i’r diwydiant amaeth yn cael eu hymestyn.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths AS, bod Llywodraeth Cymru yn “blaenoriaethu cefnogaeth” i’r sector i’w helpu i liniaru effeithiau Brexit a’r pandemig Covid-19.

O dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), bydd cyllid o £238m yn cael ei neilltuo, yr un faint a gafodd ei ddarparu yn 2020 a 2021, a bydd modd i ffermwyr hawlio cyfran o’r cyllid hwnnw.

‘Hanfodol’

Roedd llywydd NFU Cymru, John Davies, yn credu bydd y cyllid yn eu helpu i ddelio â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sector.

“Mae NFU Cymru yn croesawu’n fawr y cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig y bydd taliadau o’r BPS yn parhau i’r diwydiant yn 2022 ac y bydd yn parhau ar yr un lefelau â 2020 a 2021,” meddai.

“Fel undeb, rydyn ni wedi pwysleisio i Lywodraeth Cymru bod y BPS yn hanfodol i gynnal cyflenwad diogel, safon uchel a fforddiadwy o fwyd i’r holl gymdeithas.

“Mae hyn mor bwysig ag erioed, wrth i’r wlad barhau i frwydro yn erbyn effeithiau’r Coronafirws.”

‘Arfogi ffermwyr’

“Mae’r flwyddyn o’n blaenau ni’n cynnig heriau parhaus i’r sector,” ychwanegodd John Davies.

“Rydyn ni’n delio â heriau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd, bargeinion masnach gyda gwledydd sy’n allforio llawer o gynnyrch amaeth, a chynnydd sylweddol mewn costau mewnbynnu.

“Yn ogystal â chynnig sicrwydd i fusnesau ffermio, mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn hwb i fusnesau gwledig a chymunedau, wrth i ffermydd Cymreig ddarparu’r sylfaen economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i’n cymunedau gwledig.

“Er bod llawer o ansicrwydd yn y dyfodol i amaeth yng Nghymru, mae’r newyddion bod lefelau cyllid yn aros yr un fath ar gyfer y BPS yn 2022 yn rhoi eglurder a sefydlogrwydd yn y tymor byr a’n arfogi ffermwyr i ddelio â rhai o’r heriau sydd o’u blaenau.”