Mae Prif Weinidog Cymru yn rhybuddio bod “cysgod y pandemig yno o hyd” wrth i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer y Nadolig eleni.

Yn ei neges flynyddol ar noswyl Nadolig fe ddymunodd “Nadolig diogel, heddychlon a hapus” gan ddweud y byddwn “unwaith eto, yn tynnu gyda’n gilydd i ddod trwy’r cyfnod anodd hwn”.

“Wrth i ni ddod at ein gilydd gyda ffrindiau a theulu, mae cysgod y pandemig yno o hyd,” meddai.

“Ond, unwaith eto, byddwn yn tynnu gyda’n gilydd i ddod trwy’r cyfnod anodd hwn.

“I roi help llaw i deulu, ffrindiau a chymdogion.

“Ac i edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth.”

Daw ei neges yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau newydd a fydd yn dod i rym yng Nghymru ar ôl diwrnod Nadolig.

Brechu

Fe dynnodd sylw at waith y Gwasanaeth Iechyd dros y Nadolig yn ogystal â rhoi pwyslais ar bwysigrwydd cael y trydydd brechlyn.

“Y Nadolig hwn, bydd llawer o bobl yn gweithio ddydd a nos i’n cadw ni yn ddiogel – gwirfoddolwyr yn y gymuned, staff y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys,” meddai.

“Ac wrth gwrs yr holl bobl sydd wedi aberthu eu Nadolig i weithio yn y canolfannau brechu ledled y wlad i’n hamddiffyn ni rhag y feirws ofnadwy hwn.

“Mae ymroddiad a gwasanaeth y ’fyddin frechu’ werth y byd i ni.

“Diolch yn fawr iawn am eich holl waith caled.

“Rwyf am i chi i gyd gael gorffwys, hedd a llawenydd dros yr Ŵyl.

Nadolig Llawen.”

Fe atododd Mark Drakeford fideo ar ei gyfrif Twitter: “Wrth i ni ddathlu’r Nadolig eleni, hoffwn ddiolch i’r pobl sydd yn gweithio dros yr wyl, a dymuno Nadolig diogel, heddychlon a hapus. Nadolig Llawen i chi gyd.”

Lefel Rhybudd 2

O ddydd San Steffan ymlaen bydd Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 2 mewn ymateb i fygythiad yr amrywiolyn Omicron.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Rheol 6 mewn tafarndai a bwytai;
  • Gwasanaeth bwrdd/Olrhain cysylltiadau;
  • Masgiau mewn tafarndai/bwytai;
  • Dim digwyddiadau mawr y tu mewn nac yn yr awyr agored – hyd at 30 o bobl dan do/hyd at 50 y tu allan.

 

Cyflwyno mesurau Covid-19 newydd yng Nghymru Ddydd San Steffan

Ailgyflwyno’r rheol chwe pherson a gwahardd digwyddiadau mawr dan do ac yn yr awyr agored ymysg y mesurau newydd