Mae tref Wrecsam yn y ras i ennill statws dinas y flwyddyn nesaf.
Wrecsam yw’r unig leoliad yng Nghymru sy’n ymgeisio ar gyfer statws dinas Jiwbilî, ar ôl i fwrdd gweithredol yr awdurdod lleol roi sêl bendith i gyflwyno cynnig ddechrau mis Rhagfyr.
Mae’r dref yn ymuno â lleoliadau sy’n cystadlu’n rheolaidd fel Milton Keynes, ynghyd â 37 o leoliadau eraill.
Eleni, am y tro cyntaf, mae gan brifddinasoedd rhyngwladol, fel rhai Ynysoedd y Falkland, Ynysoedd y Cayman a Gibraltar, hawl i ennill statws dinas y Deyrnas Unedig.
Daw hyn yn sgil dathliadau fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf i nodi fod y Frenhines wedi teyrnasu ers 70 mlynedd, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi fis Mehefin nesaf.
Nid oes unrhyw reolau penodol nag isafswm poblogaeth er mwyn i leoliad gymhwyso a derbyn statws dinas, a bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Frenhines ar gyngor gweinidogion y llywodraeth.
Tŷ Ddewi a Llanelwy
Mae ardaloedd llai hefyd wedi ymgeisio am statws dinas fel rhan o’r dathliadau Jiwbilî, gan gynnwys Marazion yng Nghernyw, Alcester yn Swydd Warwick, a Peel ar Ynys Manaw.
Byddai Marazion, sydd â phoblogaeth o tua 1,500, yn disodli Tŷ Ddewi yn Sir Benfro sydd â phoblogaeth o 1,800, fel dinas leiaf y Deyrnas Unedig pe bai’r cais yn llwyddiannus.
Fe enillodd Llanelwy, Sir y Fflint, sef ail ddinas leiaf y Deyrnas Unedig sydd â phoblogaeth o 3,355, statws dinas yn 2012 fel rhan o ddathliadau Jiwbilî.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â 69 o ddinasoedd presennol y Deyrnas Unedig – 51 yn Lloegr, 6 yng Nghymru, 7 yn yr Alban, a 5 yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd gofyn i ymgeiswyr arddangos eu treftadaeth ddiwylliannol, eu traddodiadau a’u hunaniaeth, ynghyd â chysylltiadau â brenhinoedd a thrigolion lleol enwog.
Mae’r cystadleuwyr tramor eleni’n cynnwys prifddinas Ynysoedd y Falkland, Stanley, a phrifddinas Ynysoedd y Caymans, George Town.
Wrecsam
Mae Wrecsam hefyd wedi ymgeisio ar gyfer Dinas ddiwylliant y Deyrnas Unedig yn 2025, ac mae dinasoedd sydd wedi ennill y statws yn y gorffennol wedi elwa o rai miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, gan greu swyddi a denu miloedd o ymwelwyr.
Cafodd y cynlluniau hynny eu cefnogi gan aelodau’r bwrdd gweithredol, ond does dim rhaid i Wrecsam ddod yn ddinas er mwyn ennill y teitl ‘Dinas Diwylliant’, gyda threfi a rhanbarthau cyfan yn cael gwahoddiad i ymgeisio.
Fis diwethaf fe gefnogodd cynghorwyr Plaid Cymru’r cais i ddod yn Ddinas Diwylliant, ond maen nhw wedi gwrthwynebu’r cais i ddod yn ddinas.
Mae’r gystadleuaeth i ddod yn Ddinas Diwylliant yn cael ei chynnal gan Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig bob pedair blynedd.
Mae tref Wrecsam wedi derbyn sylw rhyngwladol eleni wedi i’r tîm Pêl-droed gael ei brynu gan yr actorion byd enwog Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
‘Lefelu Fyny’
Dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Steve Barclay y gallai derbyn statws dinas gyfrannu at “lefelu fyny”, sef uchelgais Llywodraeth Boris Johnson i gydraddoli cyfleoedd ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, dywedodd Paul Swinney, cyfarwyddwr ymchwil melin drafod y Ganolfan Dinasoedd, ei bod hi’n bwysig peidio â gorbwysleisio effaith y statws, er y gallai fod yn “bwysig i falchder dinesig”.
“Er bod Reading yn dref yng ngolwg y Frenhines, o safbwynt yr economi mae’n ddinas yn barod,” ychwanegodd.