Mae dros 7,500 o deganau ac anrhegion wedi cael eu dosbarthu i blant dros Sir Gaerfyrddin drwy Apêl Teganau Nadolig.

Dros y sir, mae 1,287 o blant, o fabanod i bobol ifanc yn eu harddegau, wedi derbyn anrhegion eleni, sy’n gynnydd o gymharu â llynedd.

Yn ogystal, mae bagiau llesiant wedi cael eu dosbarthu i 180 o bobol ifanc oedd angen nwyddau ymolchi sylfaenol.

Mae’r apêl flynyddol, sy’n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn helpu miloedd o blant lleol â theuluoedd sydd methu fforddio prynu anrhegion.

Drwy gyfraniadau gan y cyhoedd, mae’r Cyngor Sir yn prynu teganau ac anrhegion i’w dosbarthu i’r plant.

“Syfrdanu”

Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am yr Apêl Teganau Nadolig, eu bod nhw wedi syfrdanu gan yr ymateb.

“Unwaith eto, rydym wedi cael ein syfrdanu gan garedigrwydd y cyhoedd sydd wedi sicrhau bod y plant hyn, a fyddai wedi cael dim neu ychydig iawn fel arall, yn cael anrhegion Nadolig,” meddai Mair Stephens.

“Roedd ein rhestr hyd yn oed yn fwy eleni, a bu’n rhaid i ni brynu 1,300 o anrhegion ychwanegol wrth i fwy o bobol gael trafferth prynu anrhegion ar gyfer eu plant.

“Rydw i mor falch ein bod wedi gallu helpu pob plentyn oedd ar ein rhestr a rhoi gwên ar eu hwyneb.”