Mae yna bryder na fydd Gwynedd yn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru, yn ôl y Cyngor Sir.
Erbyn 2025 bydd yn rhaid i bob cyngor yng Nghymru ailgylchu neu gompostio 70% o’u gwastraff, neu wynebu risg o gael dirwy.
Ond fe allai Gwynedd ei chael hi’n anodd cyrraedd eu targed o 64%, yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno i gabinet y cyngor yr wythnos hon.
Ers 2018/19 mae’r sir wedi gweld cynnydd cyson, gyda chyfraddau ailgylchu ddiwedd blwyddyn yn cynyddu’n raddol o 62.31% i 64.74%, ac yna i 65.87% erbyn diwedd 2020/21.
Fodd bynnag, cafodd pryderon eu codi y gall y tuedd hwn newid, gyda ffigurau’n dangos mai dim ond 64.64% o wastraff y sir gafodd ei ailgylchu yn ystod hanner cyntaf 2021/22.
Gwastraff Cyffredinol
Mewn cyfarfod cabinet yr wythnos hon, daeth i’r amlwg bod mwy o wastraff cyffredinol yn cael ei gasglu, a bod hynny’n effeithio ar gyfraddau ailgylchu’r sir.
Er mwyn atgyweirio hyn, mae’r adroddiad yn nodi y dylid gosod mwy o finiau ailgylchu mewn mannau cyhoeddus, yn ogystal â chynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth.
“Ar drothwy’r Nadolig mae’n bwysig cofio y bydd llawer o bethau’n cyrraedd ein cartrefi, felly mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn ceisio ailgylchu popeth y gallwn ni,” meddai deilydd y portffolio ar gyfer Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Catrin Wager.
“Bydd y gwasanaeth yn parhau i gasglu ddydd Llun a dydd Mawrth, er eu bod nhw’n Wyliau Banc, a byddwn ni hefyd yn gofyn i bobol archebu slot yn ein canolfannau ailgylchu os oes angen.
“Wrth i’r ymdrech i gynhyrchu llai o wastraff ddwysáu, mae llawer o gynghorau ledled Cymru eisoes wedi penderfynu na fydd cymaint o gasgliadau sbwriel cyffredinol wrth i dargedau tirlenwi dynhau.”
Casgliadau
Yn 2008, penderfynodd Cyngor Gwynedd gasglu sbwriel bob pythefnos, ac ers 2014 mae sbwriel wedi bod yn cael ei gasglu bob tair wythnos er mwyn ceisio annog mwy o drigolion i ddefnyddio eu biniau ailgylchu ac arbed arian.
Ar gyfartaledd, mae un person yng Ngwynedd yn cynhyrchu dros hanner tunnell o wastraff y flwyddyn, ac mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei ailgylchu ar ryw ffurf.
Mae’r deunydd hwn fel arfer yn cael ei werthu am elw, sydd ynddo’i hun yn dod ag incwm cyfartalog o £700,000 y flwyddyn i’r cyngor – sy’n cyfateb i gynnydd o 1% yn y dreth gyngor.
Mae’r traean arall, sef gwastraff cyffredinol a deunyddiau na ellir eu hailgylchu, yn cael eu cludo i Barc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy, y llosgydd gwastraff-i-ynni newydd gwerth £800 miliwn sy’n cymryd gwastraff o’r fath o bob sir yn y gogledd oni bai am Wrecsam.
Mae gwastraff bwyd y sir yn mynd i waith treulio anaerobig GwyriAD yng Nghlynnog Fawr.
Mae’r ganolfan arbenigol yn troi gwastraff bwyd o’r fath yn egni trydanol ar gyfer y Grid Cenedlaethol a yn wrtaith ar gyfer tir amaethyddol.
Ond er bod dros 5,400 tunnell o fwyd yn mynd yno bob blwyddyn, mae swyddogion yn amcangyfrif bod 2,000 tunnell arall yn cael eu gollwng ar ddamwain i finiau gwastraff cyffredinol.
Ychwanegodd Steffan Jones, pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol, eu bod wedi nodi patrymau newidiol yn ystod blwyddyn arferol, ac y gall tymor twristaidd prysur arwain at gynnydd mewn gwastraff gweddilliol yn ystod yr haf.
“Mae cyfnod anodd o’n blaenau a byddwn yn monitro’r sefyllfa dros y trydydd chwarter er mwyn sicrhau ein bod yn parhau’n uwch na’r 64% statudol,” meddai.
“Mae angen cynllun penodol arnom i gyrraedd 70% erbyn mis Mawrth 2025, a dyna fyddwn ni’n gweithio arno.”