Roedd gan un ymhob 55 person yng Nghymru Covid-19 yn yr wythnos hyd at 16 Rhagfyr, yn ôl amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Doedd dim newid yn y ganran ers yr wythnos flaenorol, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod 54,400 o bobol yng Nghymru efo Covid yn ystod y saith niwrnod hyd at 16 Rhagfyr.

Mae’r gyfradd yn is, fodd bynnag, na’r gyfradd o un ymhob 40 a gafodd ei hamcangyfrif ganddyn nhw’n ddiweddar.

Mae hi’n amlwg bod cyfradd yr achosion yn cynyddu yn Lloegr a’r Alban, medden nhw, ond mae’r tueddiad yn ansicr yng Nghymru.

Yn yr wythnos hyd at 29 Tachwedd, mae hi’n debyg y byddai 93.6% o oedolion Cymru wedi profi’n bositif am wrthgyrff Covid-19.

Dim newid i reolau hunanynysu

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw y bydd rhaid i bobol sy’n profi’n bositif am Covid-19 barhau i hunanynysu am ddeng niwrnod.

Mae’r rheolau wedi newid yn Lloegr, lle mae bellach yn bosib i bobol roi’r gorau i hunanynysu ar ôl saith niwrnod ar ôl cael prawf llif unffordd negyddol ar ddiwrnod chwech a saith.

“Ar hyn o bryd, nid oes newid i’r rheol hunanynysu 10 diwrnod ar gyfer achosion positif yng Nghymru,” meddai Eluned Morgan.

“Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion roi systemau ar waith i alluogi newid o’r 5ed o Ionawr pe bai’r pwysau tebygolrwydd yn newid gyda chynnydd yn y nifer o achosion yn peryglu ein gallu i ddarparu gwasanaethau critigol.”

O ran rheolau hunanynysu ar gyfer cysylltiadau i achosion positif, nid oes rhaid i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant 5 i 18 oed, na phobol sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlynnau hunanynysu mwyach.

Yn hytrach mae gofyn iddyn nhw gymryd profion llif unffordd am 7 niwrnod.

Nid yw’r cyngor wedi newid i gysylltiadau agos sydd heb eu brechu. Mae gofyn iddyn nhw hunanynysu am ddeng niwrnod, ac fe’u cynghorir i gymryd profion PCR ar ddiwrnod dau ac wyth.

Nid oes angen i blant o dan 5 oed gymryd prawf PCR na phrofion llif unffordd, na hunanynysu chwaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar y rheolau gwahanol oedd yn bodoli ar gyfer pobol sy’n gysylltiadau agos i achosion positif o Omicron, ac maen nhw nawr yn trin pob amrywiolyn yr un fath.

Brechlynnau atgyfnerthu

Hyd yn hyn, mae 1.4 miliwn o ddosys atgyfnerthu wedi’u rhoi yng Nghymru, sy’n gyfystyr â bron i hanner pobol dros ddeuddeg oed yn y wlad.

Yr wythnos hon, cafodd 53,000 o frechlynnau eu rhoi mewn un diwrnod – sef y nifer uchaf ers i’r rhaglen frechu gael ei lansio llynedd.

Mae Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed o gynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd y flwyddyn, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn gofyn i bobol roi blaenoriaeth i fynd am eu brechiad atgyfnerthu.

“Mae’r amrywiolyn Omicron yn symud yn gyflym ac felly mae angen i ni sicrhau bod y brechiad atgyfnerthu yn cael ei gyflwyno’n gyflym,” meddai.

“Dim ond drwy ymroddiad pawb sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r brechlyn y gallwn ni gyflawni hyn – mae eu hymrwymiad parhaus nhw’n helpu i Ddiogelu Cymru.”

Difrifoldeb salwch Omicron

Yn y cyfamser, yn ôl dadansoddiad newydd, mae pobol sy’n dal Omicron 50% i 70% yn llai tebygol o fod angen gofal ysbyty o gymharu ag amrywiolion eraill.

Yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (UKHSA), mae’r canfyddiadau yn “galonogol”, ond mae hi dal yn bosib y gallai Omicron arwain at nifer fawr o bobol yn cael eu derbyn i’r ysbyty.

Mae’r ystadegau, sy’n seiliedig ar Delta ac Omicron yn y Deyrnas Unedig ers dechrau Tachwedd, yn dangos bod pobol 31% i 45% yn llai tebygol o fynd i adran frys efo Omicron hefyd.

Ond, gallai’r buddion o gael feirws llai peryglus gael eu dadwneud gan ei fod yn lledaenu’n gynt, ac mae yna ansicrwydd ynghylch beth fydd yn digwydd pan fydd Omicron yn cyrraedd pobol hŷn.

Ar y funud, mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n ei ddal ac yn mynd i ysbytai yn y Deyrnas Unedig o dan 40 oed.

“Mae ein dadansoddiadau diweddaraf yn dangos arwyddion cynnar calonogol y gallai pobol sy’n dal amrywiolyn Omicron fod mewn risg cymharol is o gael eu derbyn i’r ysbyty na rhai sy’n dal amrywiolion eraill,” meddai Dr Jenny Harries, prif weithredwr UKHSA.

“Mae achosion yn parhau i fod yn uchel iawn yn y Deyrnas Unedig, a gallai cael cyfran fach o bobol angen gofal ysbyty arwain at nifer sylweddol o bobol yn mynd yn ddifrifol wael, hyd yn oed.”

Mae Mark Drakeford wedi dweud bod pobol sy’n canolbwyntio’n unig ar ddifrifoldeb y salwch yn “methu’r pwynt”.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (22 Rhagfyr), dywedodd fod y cyflymder mae Omicron yn lledaenu arno’n golygu y gallai arwain at ddigon o dderbyniadau i ysbytai i lethu’r Gwasanaeth Iechyd.

Symptomau

Yn ôl astudiaeth Covid ZOE, mae gan un ymhob 47 person yng Nghymru ar y funud Covid gyda symptomau.

Mae dadansoddiad newydd ganddyn nhw’n amcangyfrif bod hanner y bobol sy’n dioddef symptomau fel annwyd yn debyg o fod â Covid-19 symptomatig yn hytrach nag anwyd arferol.

Dywedodd yr Athro Tim Spector, y gwyddonydd sy’n arwain ap Astudiaeth Covid ZOE, bod angen newid y negeseuon cyhoeddus ynghylch Covid “ar unwaith” i gydnabod y ffaith mai symptomau tebyg i annwyd cyffredin fydd nifer o bobol yn eu cael gyda Covid.

“Mae data ZOE yn dangos nad tagu parhaus, tymheredd uchel, neu golli blas ac arogl yw’r symptomau pwysicaf bellach,” meddai.

“I’r rhan fwyaf o bobol, bydd achos positif o Omicron yn teimlo dipyn mwy fel annwyd cyffredin, gan ddechrau gyda dolur gwddw, trwyn yn rhedeg a chur pen.”

Cyfraddau diweddaraf ardaloedd awdurdodau lleol

Dyma ddiweddariad dydd Iau (23 Rhagfyr) o gyfraddau achosion Covid-19 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Ragfyr 19, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 mewn prawf labordy, yn ogystal â phrofion llif ochrol cyflym cadarnhaol nad oes ganddynt brawf PCR negyddol dilynol o fewn 72 awr.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Rhagfyr 20-23) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Caerdydd sydd bellach â’r gyfradd uchaf yng Nghymru (900.3, i fyny o 474.0).

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 19; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 19; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 12; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 12.

Caerdydd, 900.3, (3324), 474.0, (1750)

Ynys Môn, 895.8, (631), 689.9, (486)

Bro Morgannwg, 768.7, (1040), 539.6, (730)

Sir Ddinbych, 701.4, (678), 580.4, (561)

Sir Fynwy, 692.5, (659), 490.7, (467)

Sir y Fflint, 682.8, (1071), 584.0, (916)

Abertawe, 679.7, (1676), 504.9, (1245)

Casnewydd, 662.2, (1036), 550.3, (861)

Pen-y-bont ar Ogwr, 635.8, (938), 578.8, (854)

Rhondda Cynon Taf, 634.6, (1535), 427.1, (1033)

Wrecsam 614.5, (836), 602.0, (819)

Torfaen, 613.7, (582), 520.9, (494)

Merthyr Tudful, 609.0, (368), 450.2, (272)

Gwynedd, 604.0, (756), 584.0, (731)

Caerffili, 592.6, (1077), 480.4, (873)

Castell-nedd Port Talbot, 587.3, (848), 446.0, (644)

Conwy, 552.5, (653), 440.0, (520)

Sir Benfro, 539.6, (684), 455.2, (577)

Powys, 505.9, (673), 442.8, (589)

Blaenau Gwent, 498.4, (349), 425.6, (298)

Sir Gaerfyrddin, 477.7, (908), 404.1, (768)

Ceredigion, 477.4, (348), 375.9, (274)