Athrawon a llywodraethwyr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ddylai fod y cyntaf i wybod am y posibilrwydd o’u hysgolion yn cau neu newidiadau i ddarpariaeth iaith, meddai grŵp yng Nghyngor Sir Gâr.
Cafodd cyfres o argymhellion eu cynnig gan y grŵp ar ôl iddyn nhw glywed gan arweinwyr addysg a swyddogion Llywodraeth Cymru am god trefniadaeth ysgolion Cymru.
Mae’n rhaid i gynghorau gydymffurfio â’r cod hwnnw pan fyddan nhw’n cynnig agor, newid neu gau ysgolion.
Eglurodd cynghorwyr a llywodraethwyr ysgolion wrth y grŵp gorchwyl a gorffen ar addysg fod prosesau ymgynghori ar gyfer cau ysgolion yn achosi pryderon helaeth.
Wrth gyflwyno ei adroddiad terfynol yn un o gyfarfodydd craffu’r cyngor, dywedodd y Cynghorydd Darren Price (Plaid Cymru) ei fod yn teimlo bod y cod yn ymddangos yn “anniben ac yn wrthwynebus.”
Roedd yn gobeithio byddai’r argymhellion yn cryfhau’r ffordd mae’r cyngor yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer ysgolion.
Argymhellion
Mae’r argymhellion yn cynnwys ymgynghori anffurfiol â phennaeth a chadeirydd y llywodraethwyr am gynnig sy’n effeithio ar eu hysgol, ac yna’r staff a’r corff llywodraethu, cyn cyhoeddi ymgynghoriad yn swyddogol.
Fe wnaeth y grŵp hefyd argymell cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn cymunedau sy’n cael eu heffeithio – yn ystod y cyfnod answyddogol.
Dywedon nhw y dylai taflen wybodaeth am unrhyw gynnig fod ar gael i rieni a phreswylwyr.
Galwodd y grŵp hefyd ar Lywodraeth Cymru i symleiddio’r broses cod trefniadaeth ysgolion ac annog pobol i fynegi eu cefnogaeth yn ogystal â gwrthwynebiadau.
Yn olaf, fe argymhellon nhw y dylai’r cyngor rannu ei strategaethau addysg ehangach, fel cynnig mwy o ddarpariaeth Gymraeg, gydag athrawon, llywodraethwyr a chynghorwyr.
Ar y pwynt hwnnw, dywedodd y Cynghorydd Price: “Roedd y dystiolaeth a gawson ni yn dangos bod diffyg dealltwriaeth.”
Bydd yr argymhellion yn cael eu trafod gan y cabinet maes o law.
Tro pedol
Yn gynharach yn y mis fe wnaeth aelodau’r cabinet ymestyn cyfnod ymgynghori ar gyfer dwy ysgol gynradd sydd dan fygythiad.
Roedd swyddogion wedi argymell cau Ysgol Gynradd Mynydd-y-garreg ger Cydweli, ac Ysgol Gynradd Blaenau ger Llandybie, ar ddiwedd y flwyddyn ysgol bresennol.
Ond fe wnaeth y cabinet ohirio’r penderfyniad a dewis ymestyn adolygiad o ddarpariaeth addysg ar draws y sir. Bydd cynigion newydd ar gyfer addysg gynradd yng Nghydweli a Llandybie yn cael eu cyhoeddi maes o law.