Mae pobol â Covid Hir yng Nghymru cael eu gadael i “weithio popeth allan” eu hunain, yn ôl un sy’n dioddef o’r cyflwr.

Daliodd Alex Heffron, sy’n ffermio yng Nghrymych, Covid-19 ym mis Mawrth 2020, ac mae’n dal i ddioddef effeithiau Covid Hir bron i 22 mis wedyn.

Mae Alex Heffron, gyda’i grŵp Long Covid Wales, yn galw am sefydlu clinigau Covid Hir arbenigol yng Nghymru.

Ar ôl siarad yn helaeth ag eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddo, sylwodd ar batrwm o ddiffyg cefnogaeth, a phobol yn derbyn y cyngor neu wybodaeth anghywir gan feddygon gan fod diffyg arbenigwyr.

Yn ôl yr amcangyfrifon, mae degau ar filoedd o bobol yng Nghymru yn dioddef o Covid Hir, nifer ohonyn nhw ers dros flwyddyn, fel Alex Heffron.

Mae cyflwr Alex Heffron wedi bod yn amrywio ers mis Mawrth 2020, a thua diwedd 2020 wnaeth Covid Hir ei daro mewn gwirionedd, meddai wrth golwg360.

Mae ei brofiad yn un “reit gyffredin”, meddai, ond mae’n credu fod ei brofiad “rywle yn y canol” o ran difrifoldeb ei salwch.

“I fi, mae’n gyhyrau a cymalau poenus, blinder eithafol, a dw i wedi cael cwpwl o figranes – er dw i wedi llwyddo i osgoi’r rheiny ar y cyfan – a’r asthma yn syth ar ôl Covid, insomnia hefyd, ac yna fe wnes i ddatblygu palpitations ar fy nghalon yr haf hwn – maen nhw dal yno, ond dw i heb sylwi arnyn nhw ers ychydig o wythnosau nawr.

“Efallai fy mod i’n gaeth i’r tŷ am ychydig fisoedd, ond mae yna rai pobol yn gaeth i’w gwelyau am y cyfnod.”

“Ddim yn gweithio”

Wrth siarad am ei brofiad yntau, ac eraill, wrth geisio cael cymorth meddygol, dywedodd Alex Heffron ei fod yn diolch am grwpiau cymorth ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mewn gwirionedd, rydych chi’n cael eich gadael i weithio popeth allan eich hun,” meddai.

“Diolch byth, mae yna’r holl grwpiau cymorth hyn ar Facebook nawr, ac mae yna ddyn ar YouTube sydd wedi gwneud lot o ymchwil a chyfweld nifer o ymchwilwyr a doctoriaid i gael y cyngor gorau.

“Mae hynny wedi fy helpu i’w ddeall yn well, a gwybod beth sydd angen i mi ei wneud i wella.

“Ar y cyfan, does gan ddoctoriaid ddim llawer o syniad,” ychwanegodd.

Yng Nghymru, mae gofyn mynd at feddyg teulu â Covid Hir ac yna cael eich cyfeirio ymlaen i lefydd gwahanol am gyngor neu driniaeth arbenigol.

Ond dydi hynny ddim yn digwydd, meddai Alex Heffron, “yn rhannol oherwydd dydi meddygon teulu ddim yn deall y cyflwr, yn rhannol gan nad oes yr unlle i’ch gyrru chi”.

“Dydi hynny jyst ddim yn gweithio i bobol.

“I ddechrau dydych chi ddim yn cael y basics, ac yn ail mae peth o’r wybodaeth rydych chi’n ei chael yn annefnyddiol neu’n gwneud pethau’n waeth.”

Clinigau Covid Hir

Ers cael Covid-19, mae Alex Heffron wedi cael pwmp asthma gan y Gwasanaeth Iechyd ac wedi cael x-ray ar ei ysgyfaint, ond mae’n dweud mai “rhan fechan o’r darlun” yw’r problemau anadlol sy’n cael eu hachosi gan Covid Hir.

“Yr hyn mae Long Covid Wales yn alw amdano yw clinigau sy’n cael eu harwain gan arbenigwyr neu ymgynghorwyr – yn syml, clinigau Covid Hir sydd gan yr arbenigwyr iawn yno,” meddai.

“Dyw e ddim yn gyflwr sydd ond yn effeithio’r frest, dyw e ddim yn gyflwr anadlol mewn gwirionedd, mae’n effeithio’r gwaed, mae’n effeithio’r system nerfol, mae yna wahanol ddamcaniaethau ar y funud, ond mae digon o dystiolaeth i ddangos ei fod yn effeithio sawl system yn y corff.

“Mae gan bobol geuladau’r gwaed, a gallen nhw fod yn marw o’r rheiny nawr. Dyw e jyst ddim yn cael ei ganfod, oherwydd nad oes gofal ymgynghorol, does dim pobol sy’n deall y cyflwr yn gwneud y gwaith.”

“Brwydr”

Os mai meddygon teulu sydd am wneud y gwaith, mae angen iddyn nhw gael eu haddysgu am Covid Hir, meddai.

“Yn aml, rydych chi’n cael eich gyrru at ffisiotherapydd neu arbenigwr iechyd galwedigaethol, a bydden nhw’n trin chi fel bod y cyflwr wedi’ch gadael chi’n wan gan nad ydych chi wedi gwneud ymarfer corff ers tro byd,” eglurodd Alex Heffron.

“Dydyn nhw ddim yn sganio pobol am broblemau calon neu bethau fel post-exertional malaise (PEM) – os ydw i’n gwneud rhywbeth sydd ychydig yn ormod, bydd yn fy mlino i’n llwyr a’n achosi lot o boen.

Problem arall, meddai, yw bod meddygon teulu’n trio “seicoleiddio’r” profiad, a dywedodd ei fod yn brofiad cyffredin i gleifion â Covid Hir.

“Maen nhw’n dweud mai gorbryder iechyd yw e, mae e’n eich pen, trïo trin ar y trywydd hwnnw ac anwybyddu’r ffaith bod yna gyflwr difrifol yn y corff.

“Mae hi’n frwydr yn syml, mae pobol â Covid Hir yn gorfod ymladd y frwydr, a does gennych chi ddim llawer o egni fel mae hi.”

“Dull wedi’i deilwra”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “darparu dull unigol, wedi’i deilwra i drin Covid hir oherwydd y symptomau eang a brofir gan bobol”.

“Mae ein rhaglen Adferiad yn canolbwyntio ar ehangu’r diagnosis, adsefydlu, a gofal i bobl sy’n dioddef o Covid Hir er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, mor agos i’w cartref â phosibl.

“Bydd pobl sydd angen cymorth mwy arbenigol, sydd ar gael gan wasanaethau mewn ysbytai yn unig, yn cael eu cyfeirio drwy eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Wrth i ni ddysgu mwy am Covid Hir, bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu bob chwe mis.”