Roedd dros 10,000 o bobol yn ychwanegol yn aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Hydref eleni o gymharu â mis Medi.
Yn ôl y data diweddaraf, roedd 679,626 o bobol ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn ystod mis Hydref – bron i 11,000 yn fwy na’r mis blaenorol.
Mae hynny’n golygu bod un ymhob pum person yng Nghymru ar restr aros.
Roedd 8,253 o bobol ychwanegol yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth o gymharu â mis Medi, cynnydd o 28.6% i 35,483.
O gymharu â mis Medi, roedd tua 2,000 o bobol ychwanegol yn aros dros flwyddyn am driniaeth hefyd.
Adrannau brys
Mae’r ystadegau ar gyfer amseroedd aros yn adrannau brys Cymru ym mis Tachwedd yn dangos bod 33.34% o gleifion wedi gorfod aros mwy na’r targed o bedair awr i gael eu gweld.
Dyma’r trydydd perfformiad misol gwaethaf ar gofnod, ac roedd materion ar eu gwaethaf ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda 62% yn cael eu gweld o fewn pedair awr.
O fewn y bwrdd iechyd, cafodd llai na hanner (42.2%) y cleifion yn adran frys Ysbyty Maelor Wrecsam eu gweld o fewn pedair awr.
Arhosodd 8,819 o gleifion dros ddeuddeg awr, ac ar gyfartaledd arhosodd pobol dros 85 oed dros saith awr i gael eu gweld.
Amseroedd ambiwlansys
O ran amseroedd ambiwlansys ym mis Tachwedd, dim ond 53% o’r rhai gafodd eu galw i alwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl gyrhaeddodd o fewn wyth munud.
Roedd yr amseroedd ar eu harafaf ym mwrdd iechyd Powys, gyda dim ond 41.8% o’r ambiwlansys yn cyrraedd o fewn y targed o wyth munud.
Fe wnaeth 75.2% o alwadau oren gymryd dros hanner awr i gyrraedd, ac roedd y sefyllfa ar ei gwaethaf ym Mae Abertawe gyda dim ond 16.8% yn cyrraedd o fewn 30 munud.
‘Gaeaf anoddaf eto’
Wrth ymateb i’r ystadegau, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gwasanaeth Iechyd yn “wynebu ei aeaf anoddaf eto”.
“Mae ein staff gweithgar yn parhau i ddangos ymrwymiad diflino i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gannoedd o filoedd o gleifion bob mis,” meddai.
“Rydyn ni wedi ymrwymo £1bn yn ystod y Senedd hon i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i adfer ar ôl y pandemig ac i drin cleifion cyn gynted ag sy’n bosibl. Yr wythnos hon, fe wnaethon ni hefyd ymrwymo cyllid i ddarparu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i weithwyr cymdeithasol, sy’n hanfodol ar gyfer helpu pobol i adael yr ysbyty a rhyddhau gwelyau.
“Fodd bynnag, mae heriau cynyddol o ganlyniad i bwysau COVID, yn golygu bod amseroedd aros wedi cynyddu, ac yn parhau i wneud hynny.
“Bydd Byrddau Iechyd yn parhau i helpu’r bobl sy’n aros am driniaeth, ac maen nhw’n sefydlu gwasanaethau i helpu unigolion i reoli unrhyw symptomau yn well.
“Mae ein ffocws uniongyrchol nawr ar sicrhau ein bod yn delio â’r cyfnod anodd nesaf hwn o’r pandemig ac y gall cleifion dderbyn gofal brys pan fydd ei angen arnyn nhw.
“Mae’n galonogol gweld bod gwelliant ym mherfformiad y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer mis Tachwedd. Ond maen nhw ac adrannau achosion brys yn parhau o dan bwysau.”
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r gwasanaeth gofal brys ac argyfwng, a’u bod nhw’n annog pawb i “Helpu Ni i’ch Helpu Chi” drwy ystyried sut maen nhw’n cael gafael ar ofal.
“Gall eich fferyllfa leol a’r gwasanaeth 111 ar-lein roi cyngor ar gyfer salwch ac anhwylderau ysgafn.”
‘Gwaethygu’n barhaus’
Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod rhaid cael adeg pan fydd pethau’n gwella, er bod y coronafeirws a’r ôl-groniad yn y galw yn sgil y cyfnodau clo diwethaf “yn amlwg yn ffactor anferth yn yr ystadegau damniol heddiw”.
“Fodd bynnag, mae record Llafur dros ddau ddegawd yn un lle mae pethau wedi gwaethygu’n barhaus: y rhestr aros yn dyblu yn ystod y flwyddyn cyn Covid, amseroedd aros mewn adrannau brys ar eu gwaethaf yn ystod y flwyddyn cyn y pandemig, a chael gwared ar gyflyrau megis strôc o’r gofynion sy’n gwneud galwad ambiwlans yn un goch,” meddai.
“Wrth symud ymlaen, mae angen i ni ryddhau’r pwysau ar adrannau brys mewn tri cham: annog eraill i ddefnyddio unedau mân anafiadau a fferyllfeydd cymunedol, cyflwyno hybiau llawfeddygol rhanbarthol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad mewn triniaethau, a gwneud hi’n haws i bobol gael mynediad at wasanaethau meddyg teulu.”
Ychwanega fod angen “sgwrs genedlaethol” ynghylch sut rydyn ni am fyw gyda’r feirws a’r “galw cynyddol rydyn ni, fel cenedl, yn ei roi ar y gwasanaeth iechyd gwladol”.