Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi gwrthod cwyn am sut y deliodd Heddlu Llundain â honiadau bod parti Nadolig wedi’i gynnal yn Rhif 10 Downing Street y llynedd.
Fe gyfeiriodd y llu ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cwyn gan y Farwnes Jones.
Roedd hi’n dadlau bod yn rhaid bod swyddogion y tu allan i Rif 10 “fod wedi gwybod” pe bai pobol wedi ymgynnull yn anghyfreithlon mewn digwyddiad yn ystod y cyfnod clo.
Ond fe wnaeth yr IOPC ryddhau datganiad, gan ddweud bod y cais yn “annilys”.
Fis diwethaf, adroddodd papur newydd The Mirror fod parti Nadolig Downing Street wedi digwydd ar Ragfyr 18 y llynedd, pan oedd Llundain dan gyfyngiadau coronafeirws llym.
Mae yna sïon ar-lein fod y digwyddiad wedi mynd rhagddo yn hwyrach na hanner nos.
Fe ddaeth i’r amlwg yn The Guardian bellach fod Boris Johnson, ei wraig Carrie Johnson ac 17 aelod o staff yn yfed gwin yng ngardd Downing Street fis Mai y llynedd.
Mae’r Prif Weinidog wedi gorchymyn ymchwiliad i’r honiadau am hyn a digwyddiadau eraill, sy’n cael ei arwain gan yr uwch was sifil Sue Gray.
Bu’n rhaid i Simon Case, arweinydd gwreiddiol yr ymchwiliad, gamu o’r neilltu ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi cymryd rhan yn un o’r partïon, sef cwis yn ei adran ei hun.
Heddlu Llundain
Dywed Heddlu Llundain nad yw’n cychwyn ymchwiliad i’r honiadau eto “ar sail diffyg tystiolaeth ac yn unol â’n polisi i beidio ag ymchwilio i achosion ôl-weithredol o dorri rheoliadau o’r fath”.
Ychwanegodd y datganiad fod yr heddlu wedi siarad â’r llywodraeth am ei ymchwiliad ei hun ac “os canfyddir unrhyw dystiolaeth o ganlyniad i’r ymchwiliad hwnnw, bydd yn cael ei drosglwyddo i Heddlu Llundain i’w ystyried ymhellach”.
Dywed y Farwnes Jones fod yr heddlu sy’n gweithio y tu allan i Rif 10 “i gyd yn cael mynediad i, ac o, Downing Street”.
“Yn syml iawn, pe bai pobol wedi ymgynnull yn anghyfreithlon yn Rhif 10 Downing Street, yna mae’n rhaid bod yr heddlu’n gwybod ac yn debygol iawn o fod wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o drefnu neu hwyluso’r trefniadau i bobol ymgynnull yn anghyfreithlon,” meddai.
“Rwy’n credu bod achos i’w ateb gan yr heddlu sy’n cynorthwyo ac yn cadw at drosedd neu’n methu’n fwriadol â gorfodi’r gyfraith o blaid gwleidyddion y Llywodraeth a’u staff.”
Cwyn ddilys
Fe ddadleuodd y Farwnes Jones hefyd fod penderfyniad y Fonesig Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain, i beidio ag ymchwilio i’r partïon honedig yn ymgais “posib i gelu” hynny.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu mai dim ond pan fydd “unigolyn, neu rywun sy’n gweithredu ar eu rhan, wedi cael ei effeithio’n andwyol gan yr ymddygiad honedig neu ei effeithiau” y gellid gwneud “cwyn ddilys”.
A gan nad oedd tystiolaeth fod y Farwnes Jones wedi bod gerllaw pan gynhaliwyd y digwyddiad, “rydym wedi penderfynu ei fod yn annilys”.
Fodd bynnag, ychwanegodd yr IOPC, “pe bai tystiolaeth yn dod i’r amlwg y gallai unrhyw un sy’n gwasanaethu gyda’r heddlu fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol neu wedi cyflawni trosedd, yn gysylltiedig â’r parti honedig, rydym wedi atgoffa Heddlu Llundain o’i rwymedigaethau i gyfeirio materion perthnasol atom, p’un a oes cwyn ddilys wedi’i gwneud ai peidio”.
Dywedodd y Dirprwy Uwch Arolygydd O’Sullivan ei fod wedi cyfeirio ail ran cwyn y Farwnes Jones – nad oedd comisiynydd yr heddlu wedi ymchwilio i honiad o barti yn Rhif 10 – i Swyddfa Plismona a Throseddu Maer Llundain (MOPC) sy’n gosod cyfeiriad a chyllideb Heddlu Llundain.
“Mae cwyn wedi dod i law ac mae’n cael ei hystyried,” meddai llefarydd.
Partïon Downing Street: Heddlu’r Met yn cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu