Mae pennaeth heddlu wedi rhybuddio rhieni i amddiffyn eu plant rhag troseddwyr gwyrdroëdig ar-lein.
Daw sylwadau Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ar ôl i ddwy ferch naw oed o’r rhanbarth gael eu ffilmio’n dawnsio’n noeth mewn “ffordd rywiol bryfoclyd” ar ap ffrydio byw.
Datgelodd tîm arbenigol seiberdroseddu Heddlu Gogledd Cymru fod ‘secstio’ gan blant ysgol hefyd ar gynnydd.
Yn dilyn y canfyddiadau hynny, roedd y Comisiynydd yn awyddus i annog rhieni i wirio gosodiadau diogelwch ar ffonau clyfar a dyfeisiadau eraill mae eu plant yn eu defnyddio.
Dywedodd y byddai mynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o beryglon seiberdroseddu yn un o’r blaenoriaethau allweddol yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd newydd sy’n gosod cynllun cyffredinol ar gyfer plismona gogledd Cymru.
Buddsoddi mewn technoleg
Ychwanegodd Andy Dunbobbin y byddai “technoleg yn chwarae rhan gynyddol hanfodol” wrth fynd i’r afael â’r troseddau.
“Mae’r cynnydd mewn troseddau ar-lein yn her enfawr i’r heddlu, yma yng ngogledd Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae troseddwyr a phedoffiliaid ar-lein yn dod yn fwyfwy soffistigedig yn y ffordd y maen nhw’n gweithredu ac mae angen i ni ymateb yn unol â hynny er mwyn i ni allu aros un cam ar y blaen.
“Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n buddsoddi i sicrhau bod gennym y dechnoleg ddiweddaraf fel y gallwn fynd i’r afael â’r peryglon ar-lein hyn.”
Addysgu
Dywed Andy Dunbobbin hefyd fod tynnu sylw plant at y peryglon cyn iddyn nhw godi yn hanfodol.
“Ar yr un pryd, mae addysgu plant yn hynod o bwysig,” meddai.
“Mae’n bwysig dangos i bob person ifanc sut i gadw’n ddiogel ar-lein a pheidio â rhoi gwybodaeth bersonol – ac rwy’n falch o ddweud bod Heddlu Gogledd Cymru yn rhagweithiol iawn yn hyn o beth.
“Ond mae gan rieni hefyd rôl hanfodol bwysig i’w chwarae wrth amddiffyn eu plant eu hunain rhag y peryglon sy’n llechu ar-lein a’r peryglon o bedoffiliaid yn targedu pobol ifanc er mwyn meithrin perthynas amhriodol gyda nhw.
“Gall ac fe ddylai mamau a thadau roi gosodiadau diogelwch rhieni ar waith ar ddyfeisiadau eu plant a fydd yn eu hatal rhag mynd i safleoedd â deunydd rhywiol amhriodol.
“Mae yna lawer o gyngor a gwybodaeth ar gael, un o’r gwefannau mwyaf defnyddiol y gall rhieni fanteisio arni yw gwefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.”