Mae llywodraethau Israel a Gwlad Pwyl wedi beirniadu digwyddiad gwrth-Semitaidd, pan oedd cenedlaetholwyr yn llafarganu “Marwolaeth i’r Iddewon” ar Ddiwrnod Annibyniaeth Gwlad Pwyl.
Roedden nhw hefyd wedi llosgi copi o ddogfen o’r Oesoedd Canol oedd yn cynnig gwarchodaeth a hawliau i Iddewon yng Ngwlad Pwyl.
Fe ddigwyddodd yn ninas Kalisz wrth i ddathliadau gael eu cynnal yn genedlaethol.
Fe wnaeth arweinwyr y digwyddiad hefyd gyfeirio at bobol o’r gymuned LHDT fel “Zionistiaid” a “gelynion Gwlad Pwyl” y mae angen eu hanfon o’r wlad.
Wrth alw am gamau cyfreithiol, dywedodd Mariusz Kaminski, un o weinidogion Llywodraeth Gwlad Pwyl, fod y digwyddiad “yn warthus ac yn sgandal”.
Mae Yair Lapid, un o weinidogion Llywodraeth Israel, wedi croesawu’r sylwadau gan y gweinidog yng Ngwlad Pwyl, gan alw am weithredu’n “ddigyfaddawd” yn erbyn y sawl oedd wedi cymryd rhan yn y weithred “syfrdanol o gasineb”.
Mae Eglwys Babyddol Gwlad Pwyl hefyd wedi beirniadu’r weithred, wrth i’r Esgob Rafal Markowski ddweud “nad oes a wnelo’r fath agweddau ddim â theimladau gwladgarol”.
Yr asgell dde eithafol
Mae’r asgell dde eithafol wedi dwyn sylw mewn digwyddiadau’n dathlu annibyniaeth Gwlad Pwyl ers rhai blynyddoedd.
Roedd y digwyddiad mwyaf yn Warsaw eleni, ond fe wnaeth y Maer Rafal Trzaskowski geisio gwahardd y digwyddiad, gan ddweud nad oedd lle yn y brifddinas i “sloganau ffasgaidd”.
Cafodd e gefnogaeth gan lys i wahardd y digwyddiad, ond rhoddodd llywodraeth asgell dde’r wlad ganiatâd i’r orymdaith fynd yn ei blaen â statws seremoni’r wladwriaeth.
Roedd Gwlad Pwyl yn un o’r gwledydd mwyaf croesawgar i Iddewon am ganrifoedd, a byddai brenhinoedd yn cynnig gwarchodaeth iddyn nhw ar ôl iddyn nhw ffoi o’r Almaen.
Y gymuned Iddewig yng Ngwlad Pwyl oedd y fwyaf yn Ewrop yn yr ugeinfed ganrif, gyda rhyw 3.3m yn byw yn y wlad ar noswyl yr Ail Ryfel Byd.
Ond cawson nhw eu lladd ar raddfa syfrdanol yn ystod yr Holocost, a dim ond rhai miloedd sydd yn y wlad erbyn hyn.