Mae Llywodraeth Cymru yn “ceisio creu rhwystr rhwng Cymru a Lloegr” o ran cyfyngiadau Covid-19, yn ôl Alun Cairns.

Daw sylwadau Aelod Seneddol Ceidwadol Bro Morgannwg a chyn-Ysgrifennydd Cymru wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyfres o fesurau i geisio atal cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron sy’n lledaenu’n gyflym.

Fe ddywedodd wrth y papur newydd The Telegraph fod y llywodraeth yn defnyddio’r pandemig i “atal symud dros y ffin”.

O Ddydd San Steffan, bydd y rheol mai chwech o bobol yn unig sy’n cael ymgynnull yn dod i rym mewn lleoliadau lletygarwch, sinemâu a theatrau a bydd clybiau nos hefyd yn cau eu drysau ar Ragfyr 27.

Dydy Boris Johnson heb gyflwyno unrhyw gyfyngiadau newydd yn Lloegr, gan gynghori pobol yn unig i wisgo gorchudd wyneb pan fo angen a chymryd prawf llif unffordd cyn ymweld â theulu.

‘Cenedlaetholwyr meddal’

“Mae’n warthus,” meddai Alun Cairns.

“Mae’r Blaid Lafur Gymreig i bob pwrpas wedi dod yn genedlaetholwyr meddal, ac wrth wneud hynny, maen nhw wedi ceisio creu rhwystr rhwng Cymru a Lloegr.”

Heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 23) mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg fod yr amrywiolyn Omicron yn achosi salwch “ysgafnach” nag amrywiolyn Delta.

Ond mae yna bryder y bydd y don o achosion yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, gyda’r posibilrwydd y gallai tua 17% o’r gweithlu fod yn sâl neu’n hunanynysu yn ystod mis Ionawr – lefel fyddai gyda’r uchaf ers dechrau’r pandemig.

“Mae mesurau ychwanegol wedi eu cyflwyno i gyfyngu ar ledaeniad y feirws a diogelu iechyd y cyhoedd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn dilyn ein cyngor hirsefydlog i bobol weithio gartref lle bynnag y bo modd, o ddydd Llun ymlaen, bydd hyn nawr yn ofyniad cyfreithiol i weithio gartref oni bai bod esgus rhesymol i beidio â gwneud hynny.

“Rydym yn disgwyl i gyflogwyr gymryd pob cam rhesymol i hwyluso gweithio gartref a rhoi’r cymorth sydd ei angen ar weithwyr.”

Cyflwyno mesurau Covid-19 newydd yng Nghymru Ddydd San Steffan

Ailgyflwyno’r rheol chwe pherson a gwahardd digwyddiadau mawr dan do ac yn yr awyr agored ymysg y mesurau newydd