Mae cofeb ym Mhrifysgol Hong Kong sy’n coffáu trychineb Sgwâr Tiananmen yn 1989 wedi cael ei chelu er gwaethaf gwrthwynebiadau.

Cafodd y golofn 26 troedfedd, sy’n cael ei disgrifio fel ‘Piler Cywilydd’, ei hadeiladu gan y cerflunydd o Ddenmarc, Jens Galschiot, ac mae’n darlunio 50 o gyrff wedi eu pentyrru ar ben ei gilydd i gofio bywydau a gafodd eu colli.

Bu farw cannoedd o ymgyrchwyr tros ddemocratiaeth yn ystod protestiadau ar y sgwâr yn Beijing yn erbyn Plaid Gomiwnyddol Tsieina rhwng mis Ebrill a Mehefin 1989.

Yn hwyr neithiwr (nos Fercher, Rhagfyr 22), fe wnaeth gweithwyr rwystro mynediad i’r safle i’r cyhoedd, ac roedd sŵn gwaith adeiladu i’w glywed yr ochr arall i’r rhwystrau.

Daw’r gwaith ddiwrnodau’n unig ar ôl i ymgeiswyr o blaid Beijing sicrhau buddugoliaeth ysgubol yn etholiadau deddfwriaethol Hong Kong, yn dilyn newidiadau yn y gyfraith sy’n gorfodi ymgeiswyr i fod yn ‘wladgarwyr’ sy’n ffyddlon i Lywodraeth Tsieina.

Mae Carrie Lam, arweinydd Hong Kong, hefyd wedi diweddaru’r llywodraeth ar y sefyllfa yr wythnos hon, ar ôl i’r awdurdodau ddistewi anghydfodau sydd wedi bod yn digwydd yno.

‘Dim hawl’ dangos y cerflun

Fe wnaeth Prifysgol Hong Kong roi caniatâd i dynnu’r golofn i lawr ym mis Hydref, er gwaethaf protestiadau gan grwpiau ymgyrchu.

“Does neb erioed wedi cael hawl gan y brifysgol i arddangos y cerflun ar y campws, ac mae gan y brifysgol yr hawl i gymryd camau priodol i ddelio â hynny ar unrhyw amser,” medden nhw mewn datganiad heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 23).

“Mae’r cyngor cyfreithiol diweddaraf sydd wedi ei roi i’r brifysgol yn ein rhybuddio y byddai parhau i arddangos y cerflun yn achosi risgiau cyfreithiol i’r brifysgol, yn seiliedig ar y Deddfiad Troseddau sydd wedi ei deddfu o dan lywodraeth drefedigaethol Hong Kong.”

‘Fy eiddo i’

Mae Jens Galschiot, dylunydd y gofgolofn, yn anhapus gyda’r penderfyniad i’w dynnu i lawr, ac fe gynigiodd ei adleoli yn Nenmarc lle byddai’n cael ei amddiffyn.

“Dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth ddigwyddodd, ond rydw i’n ofni y byddan nhw’n ei ddinistrio,” meddai.

“Dyma fy ngherflun i, a fy eiddo i.”

Dywed y byddai’n barod i ddwyn achos yn erbyn y brifysgol pe bai’n rhaid, er mwyn amddiffyn ei waith.