Mae’r erlynydd cyhoeddus yn gwrthwynebu’r cyfyngiadau Covid-19 sydd wedi cael cyflwyno gan Lywodraeth Catalwnia.
Mae’r cyfyngiadau’n cynnwys cynulliadau o ddim mwy na deg o bobol a chyrffiw rhwng 1yb a 6yb mewn trefi sydd â phoblogaeth dros 10,000 ac sydd â chyfradd heintio dros 250.
Ond maen nhw’n mynd yn groes i hawliau Cyfansoddiadol ac felly, mae’n rhaid cael sêl bendith yr Uchel Lys cyn bod modd eu cyflwyno.
Gallen nhw ddod i rym erbyn canol nos heno (nos Iau, Rhagfyr 23), ynghyd â chau clybiau nos a gosod uchafswm niferoedd – 50% o gapasiti bwytai sydd â seddi dan do a 70% o gapasiti siopau, campfeydd a lleoliadau diwylliannol.
Mae disgwyl dyfarniad yr Uchel Lys heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 23).