Mae cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi croesawu’r cyfyngiadau newydd ac wedi pwysleisio’r angen amdanyn nhw i osgoi “carfannau helaeth o staff yn absennol gyda’r feirws”.

Daw sylwadau Dr David Bailey ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyfyngiadau ychwanegol ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 22), a fydd yn dod i rym ar Ddydd San Steffan.

Fe ddatgelodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai’r rheol o gynulliadau o ddim mwy na chwech o bobol yn dod yn ôl i rym bryd hynny, pan fydd pobol yn ymgynnull mewn lleoliadau sy’n cael eu rheoleiddio – megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.

Fel rhan o’r cyfyngiadau lefel dau, fydd dim mwy na 30 o bobol yn cael ymgynnull mewn digwyddiad dan do, a fydd dim mwy na 50 yn cael ymgynnull yn yr awyr agored.

Bydd eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan. Bydd yna eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant.

Fydd dim cyfyngiadau ar gymdeithasu mewn mannau nad ydyn nhw’n rhai cyhoeddus, gan gynnwys cartrefi preifat a lletyau gwyliau.

Ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 22), cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 301 o achosion newydd o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru, gan ddod â’r cyfanswm i 941.

‘Y ffordd orau o weithredu’

Mae cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi croesawu penderfyniad y llywodraeth i ailgyflwyno cyfyngiadau llymach wedi’r Nadolig.

“Rydyn ni’n cydnabod yr angen i frwydro yn erbyn lledaeniad cyflym Omicron ac rydyn ni’n cefnogi gweithredoedd Prif Weinidog Cymru i ddod â mwy o gyfyngiadau i mewn yn llwyr,” meddai Dr David Bailey.

“Does neb eisiau cyflwyno mesurau pellach sy’n cyfyngu ar beth mae pobol yn gallu ei wneud, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n teimlo mai dyma’r ffordd orau o weithredu i amddiffyn y cyhoedd ac o atal y Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei gorlethu.”

‘Gallai’r sefyllfa waethygu lawer mwy eto’

Mae Dr David Bailey yn gofidio am yr effaith y bydd lledaeniad yr amrywiolyn Omicron yn ei chael ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Rhybuddia y gallai achosi prinder staff a chynnydd sylweddol mewn cleifion mewn ysbytai ar yr un pryd.

“Yn sgil y cynnydd yng nghyfraddau achosion, sy’n cael ei sbarduno gan yr amrywiolyn Omicron trosglwyddadwy iawn, mae meddygon yn poeni’n fawr am yr effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar y nifer sydd mewn ysbytai,” meddai.

“Maen nhw hefyd yn poeni am yr hyn y byddai’n ei olygu i ofal cleifion ar draws y Gwasanaeth Iechyd pe bai gennym ni garfannau helaeth o staff yn absennol gyda’r firws.

“Rydyn ni eisoes yn gweld gwasanaethau yn cael eu heffeithio gan absenoldebau staff, ac rydyn ni’n gwybod y gallai’r sefyllfa waethygu lawer mwy eto.

“Bydd y pwysau ar staff dros yr wythnosau nesaf yn aruthrol. Maen nhw eisoes wedi blino’n lân – yn cario bron i ddwy flynedd o bwysau digynsail, di-ildio.

“Unwaith eto, rydym yn annog y cyhoedd yn gryf i gael eu pigiad atgyfnerthu fel mater o frys ac i ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.”

Mae e hefyd yn galw am ddarparu’r cyfarpar priodol, fel masgiau FFP3, i’r holl staff gofal iechyd ar draws ysbytai sy’n trin cleifion â Covid-19.

Dywed fod “rhaid i staff deimlo’n hyderus eu bod yn cael eu diogelu’n iawn,” gan leihau’r perygl o gael eu heintio gan y feirws.

Llywodraeth San Steffan mewn “stad o barlys yn sgil rhaniadau mewnol” yn ôl Mark Drakeford

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru’r sylwadau wrth fanylu ar y mesurau Covid-19 newydd fydd yn dod i rym yng Nghymru ar ôl y Nadolig

Cyflwyno mesurau Covid-19 newydd yng Nghymru Ddydd San Steffan

Ailgyflwyno’r rheol chwe pherson a gwahardd digwyddiadau mawr dan do ac yn yr awyr agored ymysg y mesurau newydd