Yn ystod y cyfnod clo, cafodd Rhian Cadwaladr gysur yn y gegin yn coginio pob math o greadigaethau ar nosweithiau Gwener, gan gymryd arni ei bod mewn bwyty. Yn gogyddes frwd ers yn blentyn, mae ryseitiau’r awdures a’r actores o Rosgadfan yng Ngwynedd bellach rhwng dau glawr – ac mae’r llyfr wedi dod i sylw neb llai na Nigella…