Wedi blynyddoedd yn chwarae ym mandiau pobol eraill, mae Rhodri Brooks yn canolbwyntio ar ei ganeuon ei hun…

Er ei fod yn recordio caneuon adref ar yr aelwyd ers blynyddoedd, dim ond yn ystod y pandemig y gwnaeth Rhodri Brooks fynd at i ganolbwyntio go-iawn ar ei gerddoriaeth unigol, gan fynd i stiwdio i’w recordio.

Ac mae’r penderfyniad i fynd ati o ddifrif wedi talu ar ei ganfed, achos mae ei gân newydd ‘Cocoona’ dan yr enw llwyfan AhGeeBee yn sleisen o bop indi melodig gyda slide guitar hyfryd arni.

Mae’r trac wedi ei chwarae ar BBC 6 Music, Radio Cymru a Radio Wales, a’r hyn sy’n hollol amlwg wrth wrando arni yw bod Rhodri Brooks yn hen law ar y busnas creu cerddoriaeth, er bod AhGeeBee yn enw cymharol newydd i’r Sîn.

Ar hyn o bryd mae Rhodri yn aelod o’r bandiau Melin Melyn a Teddy Hunter.

A bu yn gerddor sesiwn am flynyddoedd, gan deithio’r byd yn chwarae ym mand y canwr gyfansoddwr Novo Amor – “roedden ni i fod i deitho yn China, cyn i’r pandemig ddechrau,” eglura.

Bu’r cyfnod clo yn gyfle iddo ailasesu ei yrfa gerddorol, a chasglu ei fod am roi’r gorau i deithio gyda Novo Amor.

Pe bai wedi aros ym mand Novo, mi fyddai wedi golygu treulio hanner 2022 ar y lôn yn gigio yn Ewrop, China, Awstralia, Indonesia ac America.

Ond mae’r awydd i ganolbwyntio ar ei gerddoriaeth ei hun – a newid yn ei statws priodasol! – wedi gwneud iddo gefnu ar fyw allan o swtcês.

“Roedd o’n really weird cwitio’r band, a dweud: ‘Na, dw i ddim eisiau gwneud y teithio rhagor’,” meddai Rhodri.

“Ond fyswn i wedi bod i ffwrdd gymaint y flwyddyn nesaf – bron hanner y flwyddyn – a byswn i methu canolbwyntio ar chwarae efo Melin Melyn, Teddy, neu stwff fy hunan.

“Felly roedd yn amser da i ddweud ‘digon yw digon’… ac roeddwn i wedi priodi fis Mai, a doeddwn i ddim eisiau bod i ffwrdd o’r wraig mor hir â hynny!

“Ac roedd [bod ym mand Novo Amor] mwy fel job, doedd y gerddoriaeth ddim yn cael unrhyw fewnbwn gen i, a doeddwn i ddim ar y record nag unrhyw beth. Roedd e jesd fel session job.

“Ac ar ôl cael dwy flynedd bant [o deithio a gigio oherwydd y pandemig] rwyt ti jest wir yn gallu canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i ti.

“Ac roeddwn i yn mwynhau chwarae o flaen 50 o bobol gyda Melin Melyn mwy na chwarae o flaen mil o bobol yn America, neu rywbeth.

“Felly, ie, yr amser iawn i sdopio.”

Mae Rhodri Brooks wedi rhyddhau stwff solo o’r blaen – cafwyd yr EP Parlwr ganddo yn 2016, er enghraifft.

Ond mae’r cyfnod clo wedi rhoi’r amser iddo fynd ati o ddifrif, ac mae wedi bod wrth ei fodd yn cael gwneud.

“Rydw i wedi bod yn recordio fy stwff fy hunan, dan fy enw fy hunan, ers blynyddoedd, a ddim wir yn canolbwyntio arno fe fel prif thing fi, achos bo fi’n brysur yn chwarae gyda bandiau gwahanol, yn hapus i fod yn y cefndir.

“Ac wedyn, dyma’r tro cyntaf i fi fynd fewn i stiwdio – stiwdio Tom Rees o Buzzard Buzzard Buzzard – i reocrdio dryms a bass gyda Davey [Newington] o Boy Azooga, a chael strwythur ac asgwrn cefn da iawn i’r caneuon gyda’r dryms a’r bass…

“Roedd o jesd mor neis gwneud e’n iawn, math o beth… ar ôl bod yn chwarae cerddoriaeth pawb arall, roedd o’n neis jesd comitio i stwff fy hunan a theimlo yn hapus yn gwneud stwff fy hunan.”

Yn ystod y cyfnod clo roedd Rhodri yn ffeindio ei hun yn sgrifennu mwy a mwy o ganeuon, a’r awydd i’w recordio nhw a’u cael nhw allan yn cryfhau.

“Rydw i yn 33 nawr, ac ie, ac mae e’n teimlo fel yr amser iawn i ganolbwyntio ar beth rydw i’n fwynhau.”

Mae wedi recordio hen ddigon o ganeuon i lenwi EP ac albwm, ac mae mwy i ddod ganddo yn 2022.

Ond am rwan, gadewch i ni droi yn ôl at y sengl bresennol, ‘Cocoona’.

Ar hon mae Rhodri wedi bod i’r stiwdio i recordio’r bass a’r dryms, gan ychwanegu’r gitârs, slide guitar, piano a’i lais canu gartref.

Ac mae ‘Cocoona’, yn amlwg, yn swnio yn well na’r stwff DIY cynt a gafwyd gan Rhodri.

Mae sain y sengl newydd yn amlhaenog, yn gyfoethog, ac – yn syml – yn ardderchog.

“Ie, mae e’n lot mwy polished, on’d yw e… ac mae e’ jesd wir yn gyffrous.

“Achos dyma’r tro cyntaf i fi fynd i’r stiwdio a trïo gwneud e’n iawn, a wnaeth Sam [Barnes] o Boy Azooga cymysgu fe. Ac mae e’n gweithio fel cyfansoddwr ar gyfer miwsig teledu a stwff… felly roedd e’n neis gwneud pethe yn iawn am y tro cyntaf.”

Un o’r synnau amlwg ar y sengl newydd yw’r slide guitar sy’n swnio mor hyfryd o hiraethus.

“Rydw i wedi bod yn gwrando loads ar George Harrison dros y cyfnod clo, ac rydw i wir yn lico ei steil o chwarae gitâr,” meddai Rhodri.

“Ac rydw i yn chwarae pedal steel guitar hefyd, sydd yn offeryn country and western.”

Fe ddechreuodd Rhodri gyda’r gitâr glasurol Sbaenaidd yn yr ysgol gynradd, cyn cael ei ysbrydoli gan fandiau Cool Cymru ddiwedd y 1990au – y Manics, Y Super Furries a Chatatonia – i roi tro ar y gitâr drydanol.

Ond sŵn un arall o fandiau’r cyfnod sydd i’w glywed ar ‘Cocoona’ – mae rhyw adlais o bop-melodig Gorky’s Zygotic Mynci arni, a hyfryd o beth yw hynny.

“O ran y Gorky’s, wnes i ond darganfod nhw pan wnes i symud fewn gyda bois o ogledd Cymru pan oeddwn i ryw 25 oed,” eglura Rhodri.

“Nhw wnaeth chwarae Gorky’s i fi am y tro cyntaf. Ac ers hynny dw i’n caru stwff Euros [Childs] hefyd.

“Ac rydw i’n siwr bod hwnna wedi dylanwadu lot ar y sŵn ar y piano [sydd ar ‘Cocoona’].”

Mae yna ddiweddglo hyfryd o annisgwyl i ‘Cocoona’ hefyd, gyda sacsaffôn eitha’ free form jazzy yn ymddangos o unman i’n diddanu.

“Roeddwn i wedi cael Steve Black [sy’n perfformio dan yr enw Sweet Baboo] i recordio sacsaffôn ar gyfer yr albwm, a wnaeth e gynnig rhyw funud o chwarae jesd yn hurt, chwarae unrhyw nodau a mynd yn wallgof,” eglura Rhodri.

“Ac roeddwn i yn meddwl fyse hwne gyda rhyw fath o iws, rhywle lawr y lein.

“Ac roedd ‘Cocoona’ yn teimlo fel bod angen rhywbeth ychydig bach fwy gwyllt ar y diwedd, a wnes i roi’r sacs arno fe, ac roedd e’n ffitio mewn.”

Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae ‘Cocoona’ yn “ddathliad o gael ein gadael allan o’r cyfnod clo”.

“Roeddwn i eisiau sgrifennu cân bop catchy a byr,” eglura Rhodri.

“Roeddwn i wedi bod yn sgrifennu caneuon eithaf hir am iselder a stwff, felly roedd yn neis cael cân bop gyflym gyda guitar solo a lyrics sydd ddim rhy ddwfn.”

O ran ei enw llwyfan, AhGeeBee, mae’r esboniad yn syml – enw llawn Rhodri yw Rhodri Gwyn Brooks, felly mae llythyren gyntaf pob un o’i enwau yn ffurfio’r AhGeeBee…

 

Rhodri – Ah

Gwyn – Gee

Brooks – Bee

 

“Mae e’n haws gwneud [y gerddoriaeth] dan enw llwyfan,” eglura Rhodri.

“Roedd cadw gweld enw fi ar boster ar ôl y cyfnod clo, roeddwn i yn anghyfforddus. Felly wnes i ryw fath o enw i guddio tu ôl iddo fe.”

Mi fydd AhGeeBee yn perfformio set solo yn gig Nadolig Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ar 18 Rhagfyr, gyda Buzzard Buzzard Buzzard ac Alice Low.

Fydd o’n canu cân Nadoligaidd gawslyd?!

“Ym… ie… efalle. Ryw fath o gân really miserable, trist, country!”