Ma’ ’na un pwnc sy’n garantîd o helpu chi bennu p’un a ydych yn siarad gydag idiot. Na, ddim Brexit. Ddim gorchuddion wyneb. Sôn ydw i am y Beatles. Sai’n rhyw obsessive sy’ wedi darllen bob llyfr na gwrando ar bob bwtleg, ond ma’ rhywun sy’n mynd mas o’i ffor’ i weud bod e ddim yn lico’r Beatles yn glown.