Mae dyn 42 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd heddiw (dydd Gwener, 24 Rhagfyr) ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Yn ôl Heddlu Gwent, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn carafán ym Mharc Carafanau Preswyl Beeches ger Magwyr yn oriau man bore dydd Llun, 20 Rhagfyr.

Cafodd Richard Thomas, 52, ei gludo i’r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad a bu farw yn hwyrach ymlaen y bore hwnnw.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn “byw bywyd i’r eithaf” a bod yna byth “eiliad ddiflas yn ei gwmni.”

Maen nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd.

Gwrandawiad

Yn ddiweddarach, fe arestiodd yr heddlu Darren Smith, gŵr 42 oed o Sir Fynwy, a’i gyhuddo o lofruddiaeth.

Yn y gwrandawiad heddiw (dydd Gwener, 24 Rhagfyr), fe wnaeth Smith siarad unwaith yn unig i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad, sydd hefyd ym Mharc Carafanau Beeches.

Bydd yn parhau yn y ddalfa nes gwrandawiad arall yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau nesaf (30 Rhagfyr).